Roedd digwyddiad hwn yn manylu ar ymdrechion diweddar i lunio siarter arfer gorau ar y cyd. Ei nod yw creu newid ystyrlon i rieni o dan ofal awdurdod lleol ac wedi hynny. Mae’r siarter wedi’i gyd-gynhyrchu â rhieni, ymarferwyr a llunwyr polisïau profiadol ym maes gofal ac mae wedi’i hanelu at Rieni Corfforaethol; gweithwyr proffesiynol sy’n gyfrifol am gynorthwyo pobl ifanc sydd o dal ofal gwladol. Yng Nghymru, caiff rhieni corfforaethol eu cyfarwyddo i geisio’r un deilliannau i blant o dan ofal yr awdurdod lleol ag y byddai unrhyw riant da yn ei geisio ar gyfer eu plentyn eu hunain. 

Gwnaeth y digwyddiad hwn yn rhannu’r siarter arfer gorau a’r adnoddau ehangach a ddatblygwyd am y pwnc pwysig hwn gan gynnwys trafodaeth ar gynnal ymchwil yn y maes gan Dr Louise Roberts. Bydd rhieni sydd o dan ofal neu nad ydynt yn cael gofal mwyach o gymorth wrth ddatblygu’r digwyddiad hwn.

Roedd y gweminar yn rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol flynyddol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

Cyflwynwyr: Dr. Louise Roberts a Rachael Vaughan, Prifysgol Caerdydd

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.