Dwi’n meddwl mai’r gyfrinach er mwyn delio gyda strancio ydi i drio’u gweld ynwahanol. Swnio’n od? Daliwch I ddarllen.
Mae Natash a Dean Jones yn byw yn Rhyl gyda’i tri o blant, Sebastian (6), I mogen (4) ac Eliza (9 mis). Mewn cartref dwyieithog gyda Mam sy’n siarad Cymraeg a Thad sy’n s iarad Saesneg, mae’r teulu Jones mewn “corwynt rhianta,” wrth iddynt geisi o cydbwyso popeth – bod pob plentyn yn cael digon o sylw, mwythau, amser chwarae a sgyrsiau.
Mae gan Sebastian broblemau symudedd, tra bod gan Imogen math prin o afiechyd ar yrysgyfaint, sy’n gallu profi’n anodd cydbwyso anghenion iechyd ac apwyntiadau ysbytyynghyd a mwynhau bywyd teuluol hwylus. Fel rhieni, maent wastad wedi credu ei bod hi’nbwysig talu sylw i ymddygiad da a’i ganmol, fel ffordd o fagu hyder y plant a’u pharatoi at y dyfodol yn hytrach na gorfod meddwl am ddulliau cosbi.
“Dim ond cyfnod ydi o” medd Natasha, sy’n fam aros adref llawn amser. “Pryd bynnagrydym yn mynd trwy gyfnod caled, naill bod hynny’n ddiffyg cwsg, trafferth bwydo neudaro, dwi’n atgoffa fy hun na dim ond cyfnod ydi o a chyn bo hir mi fyddwn ni’n mynd drwygyfnod arall.”
Pan fo blentyn yn dechrau sgrechian a strancio, mae hynny’n ennyn ymateb cyntefig ynom(mae crio i fod i ddenu ein sylw), sy’n golygu ein bod eisiau eu helpu a rhoi diwedd arno. Felly, rydym yn dueddol i ffwdan, ceisio denu eu sylw, llwgrwobrwyo neu fygwth eu cosbi.
Yn lle gwneud y pethau hyn, dwin ceisio edrych ar y sefyllfa o’u safbwynt nhw. Ar yr un pryd, dwi’n atgoffa fy hyn bod eu hymenydd bach yn dal i ddatblygu a bod y cysylltiadau i gyd ddim wedi sefydlu eto sy’n golygu nad ydynt yn gallu meddwl yn rhesymol fel oedolyn. Os mae fy mhlentyn yn strancio, mae sawl rheswm posib pam – blinder, eisiau bwyd neuddigwyddiad arall sydd yn achosi iddynt fod yn emosiynol. Os bosib, dwi’n trefnugweithgareddau o gwmpas prydau ac amseroedd gorffwys i geisio ysgoi gor-flinder acwastad yn dod a byrbrydau rhag ofn eu bod yn llwglyd.
Dydw i ddim yn gofyn “Beth sydd?” neu “Pam wyt ti’n crio?” oherwydd fel arfer, dydynnhw ddim yn siŵr iawn pam chwaith, ond maent yn teimlo ton o emosiwn ac angen eiryddhau. Fyddai’n mynd ar fy mhen a gliniau i ddod lawr at eu huchder, cadw cysylltiadllygaid os bosib a gadael iddynt wylltio, wedyn fyddai’n dweud rhywbeth tebyg I “Ti’n dristiawn dwyt? Dwi’n deall pam dy fod yn drist”. Os dwi’n meddwl fy mod i’n deall pam eu bodyn crio, byddai’n ailadrodd yr hyn sydd wedi digwydd iddynt, megis “Ti eisiau’r fferins ymaa tydi Mam ddim yn rhoi nhw i ti. Dwi’n meddwl na dyna pam rwyt yn drist.”
Er ei bod hi’n dda cydymdeimlo gyda nhw, mae hi’n bwysig i beidio ildio i’w gofynion am fferins. O brofiad wrth fagu plant, maent fel arfer yn tawelu yn eithaf sydyn ac yn dringo arfy nglin er mwyn cael eu hanwesu unwaith eu bod yn teimlo eu bod wedi cael eu clywed. Pan rydych yn teimlo yn fwy positif tuag at strancio, mae’n haws i chi ddelio gyda’r peth. Dydynnhw ddim yn strancio er mwyn eich gwneud yn hwyr i rhywle, i godi cywilydd arnoch nac i ddifetha eich diwrnod, maen nhw’n ei wneud oherwydd dydyn nhw ddim yn gwybod sut aralli ddelio a’u hemosiynau.
Dyma fy mhrif dipiau er mwyn osgoi strancio:• Siaradwch a’ch plentyn – hyd yn oed os dydyn nhw ddim yn siarad eto. Mae babis yndeall llawer o beth rydych yn ei ddweud sy’n gwneud trawsfudo llawer haws. “Maebron yn amser i ni dacluso’r teganau ac wedyn allwn ni gael byrbryd, wyt ti eisiaurhoi’r teganau yn y fasged neu galla i helpu?”• Cynnig opsiynau – gyda babanod ychydig hyn, rhowch ychydig o opsiynau iddynt felbod ganddynt ychydig o reolaeth. Ond peidiwch â chynnig gormod o opsiynauoherwydd gallai hynny fod yn ormod iddynt, yn enwedig os maent wedi blino. “Wytti eisiau rhoi dy esgidiau ymlaen neu wyt ti eisiau i mi helpu?”, “pa siwmper hoffet ti wisgo? Y glas neu’r goch?”• Byddwch yn gyson – Mae rhan fwyaf o blant yn hoffi rheolaeth a threfn, felly os mae’rteganau wastad yn cael eu tacluso cyn amser byrbryd, tydi hi ddim yn sioc fawriddynt pan ei fod yn digwydd eto’r diwrnod nesaf. Maent yn dysgu i fod yn barod am y digwyddiad cyn eich bod yn ei gyhoeddi ac o bosib yn cynnig eich helpu.• Cynlluniwch o flaen llaw – Ceisiwch osgoi eu bod yn gor-flino a dewch a byrbrydgyda chi i lefydd, mae hyd yn oed oedolion yn gallu bod yn demprys pan yn llwglyd!• Peidiwch ag ildio – pan mae’r strancio drosodd, dim ots faint o dda rydych wedi delio gyda’r sefyllfa, mae’n bwysig peidio ildio i ofynion gwreiddiol eich plentyn. Efallaibod cyfaddawd i’w gael, ond mae ildio i’r gofynion gwreiddiol (beth bynnag ydynt) yn eu hanogi i ymddwyn yr un fath pryd bynnag y maent eisiau rhywbeth.• Arhoswch yn bwyllog – mae’ch agwedd yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr ac os allwch aros yn bwyllog a gwrando arnynt, gobeithio na fydd eu strancio yn parhau ynrhy hir. Mae ailadrodd unrhyw beth maen nhw’n ei ddweud yn dangos eich bod wedideall beth sy’n eu poeni ac wedi gwrando arnynt yn dechneg dda ac wedyn fe allwchroi cofleidiad iddynt a mwynhau gweddill y diwrnod gyda’ch gilydd.
Yn wreiddiol o: https://giveittime.gov.wales/face-of-parenting/?lang=en