ADRODDIAD YMCHWIL
Awduron: Alex Nunn, Tamsin Bowers-Brown, Tom Dodsley, Jade Murden, Tonimarie Benaton, Alix Manning-Jones, The Plus One Community
Blwyddyn: Mehefin 2019
Crynodeb:
Ariannwyd yr astudiaeth hon gan Raglen Allgymorth Cydweithredol Derby a Nottingham (DANCOP). Mae’n canolbwyntio’n bennaf ar gyfres o weithdai gwyliau a gynhelir gan Bartneriaeth Addysg Ddiwylliannol Derby (CEP) ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiadau uniongyrchol o’r system ofal. Mae’r canfyddiadau a adroddir yma yn deillio o amrywiaeth o ddulliau ansoddol ac yn cynrychioli’r gyd-ddealltwriaeth o Plus One rhwng ymchwilwyr o Brifysgol Derby, ymarferwyr celfyddydau yn Theatr Derby a’r partneriaid CEP eraill a’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y rhaglen.