Dylai ein plant a’n pobl ifanc gael y gorau – nid dim ond cael a chael.
Mae’r adroddiad canlynol yn ymwneud â’n hymgyrch Dyfodol Disglair: gwasanaethau plant.
Mae’r papur hwn yn nodi saith blaenoriaeth glir ar gyfer gweithredu cydgysylltiedig ar draws y sectorau cyhoeddus, cymunedol a gwirfoddol, a fydd, yn ein barn ni, yn helpu i ysgogi’r gwelliant sydd ei angen i gynnig y dyfodol disgleiriaf i blant a theuluoedd yn gyson.