

Gweminar:
Cam-drin Gwahaniaethol: Defnyddio straeon a naratifau i ymchwilio i ymatebion proffesiynol
Cyflwynydd: Dr Karl Mason
Dyddiad: Dydd Mercher 4 Chwefror
Amser: 12:00 – 13:00
Lleoliad: Ar-lein, Teams
Crynodeb:
Mae cam-drin gwahaniaethol yn cyfeirio at fathau o aflonyddu sy’n targedu nodweddion gwarchodedig rhywun, megis oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Dyma gategori o gam-drin nad yw’n cael ei adrodd yn ddigonol ac ychydig rydyn ni’n ei wybod am sut mae ymarferwyr yn ymdrin â’r gwaith hwn.
Bydd y cyflwyniad hwn yn amlinellu’r ymchwil gyfredol ar gam-drin gwahaniaethol, gan ddangos themâu sy’n cyfeirio at adolygiadau o ddiogelu oedolion. Bydd prosiect ymchwil newydd yn cael ei amlinellu sy’n defnyddio dulliau cwblhau straeon i ymchwilio i ymatebion ymarferwyr i gam-drin gwahaniaethol.
Ymatebodd pum deg chwech o gyfranogwyr, sy’n weithwyr cymdeithasol ac yn weithwyr gofal cymdeithasol, i ‘goesyn y stori’, sef llinellau agoriadol stori, gan barhau â stori maen nhw’n dewis ei hadrodd mewn ymateb i’r rhain.
Yn yr achos hwn, mae coesyn y stori yn ymwneud â chyd-destun ffuglennol, sef gweithiwr cymdeithasol sy’n ymweld ag oedolyn sy’n destun cam-drin gwahaniaethol. Defnyddiwyd dadansoddi naratifol i wneud synnwyr o’r straeon a oedd wedi deillio o hyn, gan nodi tair naratif: cynghreiriaid pryderus, eiriolwyr cadarnhaol ac aseswyr gweinyddol.
Roedd nifer fach o’r sawl a gymerodd ran na chwblhaon nhw straeon yn seiliedig ar y canllawiau a ddarparwyd. Mae’r canlyniadau’n awgrymu anghenion datblygu’r gweithlu mewn perthynas â cham-drin gwahaniaethol a bydd y cyflwyniad yn cyfeirio at adnoddau pellach a gwaith parhaus i ddatblygu arfer yn y maes hwn.
Bywgraffiad
Uwch-ddarlithydd Gwaith Cymdeithasol yn Royal Holloway, Prifysgol Llundain yw Dr Karl Mason. Mae hefyd yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig. Mae ei ymchwil a’i addysgu yn canolbwyntio ar ddiogelu oedolion a gofal cymdeithasol i oedolion, ac mae ganddo ddiddordeb yn y ffordd y mae grwpiau sydd wedi’u hymylu yn cael gafael ar y systemau hyn. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar brosiectau sy’n ymwneud â cham-drin gwahaniaethol a phobl LHDTC+, digartrefedd a gofal cymdeithasol i oedolion yn ogystal â chartrefi gofal a hawliau dynol. Mae’n cynnal adolygiadau o ddiogelu oedolion yn rheolaidd, yn enwedig yng nghyd-destun oedolion sy’n ddigartref.

