Gweminar:
Diogelu Pobl sy’n Byw gyda Dementia: Canfyddiadau astudiaeth sy’n edrych ar ymarfer ym maes gofal cymdeithasol, gofal sylfaenol a’r sector gwirfoddol

Cyflwynwyr: Reena Lasrado, (Prifysgol Manceinion) Jeremy Dixon (Prifysgol Caerdydd) and Asri Maharani (Prifysgol Manceinion)

Dyddiad: Dydd Mawrth 10 Chwefror
Amser: 13:00 – 14:00
Lleoliad: Ar-lein, Teams

Crynodeb

Mae ymchwil wedi dangos bod dementia yn gwneud oedolion yn fwy agored i gael eu cam-drin a’u hesgeuluso. Mae Deddf Gofal 2014 yn rhoi dyletswyddau i awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill yn Lloegr i ddiogelu oedolion rhag cam-drin o’r fath, gyda phartneriaeth yn egwyddor allweddol yn hyn o beth. Fodd bynnag, ychydig a wyddys am farn ac arferion gweithwyr gofal cymdeithasol ac iechyd proffesiynol ar weithio mewn partneriaeth yn y maes hwn. Nod ein prosiect oedd deall sut roedd gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol, gofal iechyd a’r sector gwirfoddol yn deall cam-drin ac esgeulustod yn achos pobl sy’n byw gyda dementia, eu dealltwriaeth o’r gyfraith a pholisïau diogelu, a’u safbwyntiau ar weithio mewn partneriaeth.   

Yn y cyflwyniad hwn, rydym yn adrodd ar dair set o ganfyddiadau. Yn gyntaf, rydym yn adrodd ar ganfyddiadau o adolygiad llenyddiaeth realistig a oedd yn tynnu ar 44 o astudiaethau a gyhoeddwyd rhwng 2014-2024. Yn ail, rydym yn cyflwyno canfyddiadau o dair set ddata yn Lloegr i archwilio dosbarthiad pryderon ac ymholiadau diogelu ymhlith oedolion hŷn â dementia yn Lloegr, ac i ystyried amrywiadau yn ôl rhyw, oedran a rhanbarth. Yn drydydd, rydym yn adrodd ar gyfweliadau lled-strwythuredig gyda deunaw o weithwyr proffesiynol amlddisgyblaethol, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, rheolwyr diogelu, meddygon teulu, eiriolwyr a gweithwyr cymorth. 

Byddwn yn egluro beth sy’n wreiddiol o’n canfyddiadau yn ogystal â chyfleu negeseuon ar gyfer ymarferwyr gofal cymdeithasol.

Bywgraffiadau

Mae Reena yn Gymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Manceinion ac yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig gyda dros 15 mlynedd o brofiad mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol cymhwysol ledled y DU ac yn rhyngwladol. Mae hi’n arbenigo mewn ymchwil ansoddol ac ymchwil dulliau cymysg, gan gymhwyso theori sylfaenol, ethnograffeg, dulliau realistig a disgwrsiol o ymdrin â dementia, diogelu, a hunanladdiad a hunan-niweidio o fewn systemau iechyd meddwl a gofal iechyd. Mae ei gwaith ymchwil yn cael ei gynhyrchu ar y cyd â chymunedau i lywio polisïau a gwella arfer.

Mae Dr. Jeremy Dixon yn Ddarllenydd mewn Gwaith Cymdeithasol yn y Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE) ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar waith cymdeithasol, iechyd meddwl, cymdeithaseg risg ac ansicrwydd, gofal diwedd oes a diogelu oedolion. Ar hyn o bryd ef yw dirprwy gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Llywydd Pwyllgor Ymchwil y Gymdeithas Gymdeithasegol Ryngwladol ar Gymdeithaseg Iechyd Meddwl a Salwch. Mae hefyd yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig.

Mae Dr Asri Maharani yn Ddarlithydd mewn Iechyd y Cyhoedd ac Epidemioleg ym Mhrifysgol Manceinion, gan arbenigo mewn heneiddio, dementia, ac anghydraddoldebau iechyd yng nghyd-destun y DU a gweddill y byd. Mae ei gwaith ymchwil yn defnyddio dulliau ystadegol a hydredol uwch i ddeall sut mae ffactorau cymdeithasol, amgylcheddol a system iechyd yn llywio heneiddio gwybyddol ac iechyd meddwl trwy gydol bywyd. Mae hi’n gweithio ar draws disgyblaethau i gynhyrchu tystiolaeth sy’n llywio polisïau ac yn cryfhau systemau iechyd i bobl hŷn. Mae Dr Maharani wedi arwain a chyfrannu at nifer o brosiectau ymchwil yn y DU ac yn rhyngwladol a ariannwyd gan sefydliadau cenedlaethol a byd-eang mawr. Nod ei gwaith yw hyrwyddo dulliau teg, sy’n seiliedig ar ddata, ar gyfer gofal heneiddio a dementia ledled y byd.