

Gweminar:
Dysgu yn dilyn Adolygiadau o Ymarfer Oedolion (APR)
Presenters: Prof Michelle McManus and Dr Emma Ball, Manchester Metropolitan University
Dyddiad: Dydd Mercher 25 Chwefror
Amser: 13:00 – 14:00
Lleoliad: Ar-lein, Teams
Crynodeb
Mae Adolygiadau o Ymarfer Oedolion (APR) yn cynnig cyfle hollbwysig i ddysgu gan achosion pan fydd oedolion mewn perygl wedi cael niwed sylweddol neu wedi marw, gan ganfod cryfderau a gwendidau systemig mewn arferion diogelu. Dadansoddodd yr adolygiad thematig hwn yn 2025, a gomisiynwyd gan Fwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru, 25 o adolygiadau o ymarfer oedolion sy’n cwmpasu digwyddiadau rhwng 2016 a 2022, gyda’r nod o gyfrannu at broses newydd o’r Adolygiad Unedig Sengl o Ddiogelu (SUSR) a gyflwynwyd ym mis Hydref 2024.
Nododd yr adolygiad thematig heriau sy’n codi yn rheolaidd ledled Cymru, gan gynnwys cydlynu amlasiantaethol tameidiog, y defnydd cyfyngedig o eiriolaeth, ystyriaeth anghyson o allu meddyliol a dogfennu amrywiol o brofiadau bywyd a dymuniadau oedolion. Roedd enghreifftiau o arfer da yn amlwg, megis y defnydd cyson o wasanaethau eiriolaeth, dogfennau “Dyma Fi” sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, a mecanweithiau cydweithio rhyngasiantaethol lleol arloesol. Bydd y cyflwyniad hwn yn rhannu canfyddiadau o’r adolygiad thematig, yn ystyried y goblygiadau ar gyfer byd polisi ac ymarfer yng Nghymru ac yn amlinellu sut mae’n rhaid i ddysgu yn dilyn adolygiadau o ymarfer oedolion lunio rhoi proses SUSR ar waith.
Dyma alwad i weithredu er mwyn ymgorffori dulliau systemig o ddiogelu oedolion mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar y person ac sy’n atebol.
Bywgraffiadau
Athro Diogelu ac Atal Trais ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion yw Michelle McManus. Mae hi wedi arwain ymchwil genedlaethol a rhyngwladol o bwys ar ddiogelu, camfanteisio, a lleihau trais, gan weithio’n agos gyda’r llywodraeth, yr heddlu a byrddau diogelu i ddylanwadu ar fyd polisi ac arfer. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar argymhellion y gellir eu rhoi ar waith, datblygu’r gweithlu, ac ymgorffori lleisiau’r rhai sy’n profi’r systemau hyn.
Uwch-gydymaith Ymchwil Diogelu ac Atal Trais ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion yw Emma Ball. Mae hi wedi gweithio ar – ac wedi arwain – ddadansoddiad ansoddol ar brosiectau cenedlaethol ledled Cymru a Lloegr sy’n ymchwilio i effeithiolrwydd diogelu amlasiantaethol. Mae hi wedi arwain y gwaith o ddatblygu’r Fframwaith Perfformiad Diogelu Amlasiantaethol Cenedlaethol 5-Maes yng Nghymru, sef y Collective Safeguarding Responsibility Model: 12cs and The Recommendation iFramework. Gan ei bod yn gyn-weithiwr cymdeithasol ac yn gyn-ymarferydd, mae hi’n angerddol am wella deilliannau’r rheini sydd yn y system ddiogelu.

