Gweminar:
Neidio dros glwydi a dangos eich lliwiau: Llywio gweithio rhyngasiantaethol i gefnogi pobl sy’n hunanesgeuluso 

Cyflwynydd: Dr David Orr

Dyddiad: Dydd Llun 23 Chwefror
Amser: 12:00 – 13:00
Lleoliad: Ar-lein, Teams

Crynodeb

Mae hunan-esgeulustod yn dod â heriau penodol, sy’n gallu peri risg uchel i hunanofal, iechyd a lles unigolion. Yn aml, mae’n gofyn am gydweithio sylweddol, sy’n gallu cynnwys rhai, neu bob un o’r gwasanaethau canlynol: Gofal Cymdeithasol, Iechyd, Tân ac Achub, Tai, Diogelu’r Amgylchedd, yr Heddlu a sefydliadau’r sector gwirfoddol, ymhlith eraill. Mae nifer uchel yr Adolygiadau Diogelu Oedolion yn dangos bod ymarferwyr yn wynebu heriau logistaidd, rhyngbroffesiynol a chyfreithiol wrth fynd i’r afael â hyn.

Mae’r weminar hon yn tynnu ar ganfyddiadau astudiaeth ar sail cyfweliadau gyda 69 o ymarferwyr / rheolwyr, 16 o bobl â phrofiad byw o hunan-esgeulustod, a 2 ofalwr teuluol. Dangosodd eu profiadau bod potensial i weithio’n rhyngasiantaethol i greu newid cadarnhaol, ond hefyd bod deinameg gymhleth sy’n rhwystro hynny rhag digwydd. Lle’r oedd dealltwriaeth gydfuddiannol dda, mannau rhyngbroffesiynol ar y cyd, a gweithdrefnau ymarferol ar waith, roedd gweithio ar y cyd yn cryfhau cefnogaeth i’r sawl sy’n hunan-esgeuluso; ar adegau eraill, roedd gorfod trafod cydweithio yn cael ei gymharu â ‘neidio rhwystrau’ neu roi eich ‘pen uwchben y parapet’. Mae cadw ffocws pob gwasanaeth ar y person sy’n profi hunan-esgeulustod yn dod yn anoddach i ymarferwyr pan fydd prosesau a rhwystrau rhyngasiantaethol yn tynnu eu sylw.

Bydd y drafodaeth hon yn ymdrin â’r angen am ddiddordeb proffesiynol mewn diogelu a hunan-esgeulustod – a’r dulliau sy’n dangos addewid i gynorthwyo yn y gwaith – i gael ei ategu gan ‘ddiddordeb rhyngbroffesiynol’.

Bywgraffiad

Athro Cyswllt Gwaith Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Sussex yw Dr. David Orr. Ers 2010, pan ddechreuodd ymchwilio i hunanesgeuluso a diogelu, mae wedi cynnal sawl astudiaeth ymchwil yn y maes hwn ac wedi cyd-ysgrifennu (gyda’r Athro Suzy Braye a’r Athro Michael Preston-Shoot) adolygiadau gwybodaeth dylanwadol ar hunanesgeuluso i’r Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth.  Arweiniodd astudiaeth i Brosiect Cydweithredol y DU er Datblygu Ymchwil i faes datblygu egwyddorion cychwynnol i arwain diogelu ym maes ymchwil datblygu rhyngwladol, ac ef oedd cyd-olygydd y Palgrave Handbook of Sociocultural Perspectives on Global Mental Health. Cyn bod yn academydd, bu’n gweithio mewn Timau Iechyd Meddwl Cymunedol gydag oedolion hŷn.