Rwy’n dod o’r Eidal ac yn blentyn treuliais gyfnod mewn gofal maeth a chyfnod mewn gofal preswyl, am gyfanswm o 11 o flynyddoedd. Fe ddes i’n dad yn 34 oed.

Beth mae bod yn rhiant yn ei olygu i chi?

Yn fy marn i mae magu plant yn ymwneud â sensitifrwydd pawb a gall pawb gael profiad o fod yn rhiant mewn llawer o ffyrdd gwahanol. Rwy’n credu ei fod yn ymwneud â gallu ymdopi â chymhlethdod a bod methiannau’n dod yn union o’r anallu i wybod sut i gyfathrebu, o fod eisiau rheoli popeth. Er enghraifft, rwy’n aml yn gofyn i mi fy hun a ddylwn i wneud fy mab yn gyfrifol neu ei gyfyngu a does dim ateb. Mae angen cwestiynu eich hun drwy’r amser. Dwyf i ddim yn meddwl ei fod yn iawn bod yn rhy dadol, bod modd esbonio popeth i blentyn. Efallai y bydd rhai pethau nad yw’n eu deall, ond rhaid i’r ddeialog hon fod yn gyson. 

Ydych chi’n credu bod eich profiadau wrth dyfu yn effeithio ar y ffordd rydych chi’n magu plant?

Rydyn ni’n dysgu llawer o blentyndod, o’r ffordd y cawsom ni ein trin, ond mae hyn yn risg yn fy marn i. Yn yr ystyr bod risg o’ch drysu chi eich hun â’r person o’ch blaen chi, hyd yn oed os yw’r amseroedd, y sefyllfaoedd, y bobl yn wahanol. Rwy’n credu bod y risg hon yn uchel, er i mi mae bod yn addysgwr wedi bod yn help mawr, gan fy mod wedi fy hyfforddi fy hun i feddwl bod pobl, a hefyd fy mab, yn wahanol i mi. Ond mae hefyd yn golygu gwneud llawer o waith arnoch chi eich hun. 

Pa gymorth ydych chi’n ei gael neu wedi’i gael gan weithwyr proffesiynol? 

Hoffwn bwysleisio mai’r teulu oedd sylfaen y gymuned lle cefais i fy magu: roedd yna berson sefydlog ac yna bobl oedd yn cylchdroi. Mae hyn yn fantais fawr i’r math o berson ydw i, ac rwy’n credu bod y peth pwysicaf a ddangosodd y bobl hyn yn ymwneud â gallu gwrando. Ac roedd hynny i mi hefyd yn golygu teimlo bod y ffordd roeddwn i fel person yn ddilys, yn hytrach na chael fy marnu neu fy rhwystro. Mae rôl i hynny heddiw yn fy rôl fel tad: Rwy’n credu mai dyna pam mae fy mab yn hoffi sgwrsio gyda fi. 

Pa gymorth ydych chi’n ei gael neu wedi’i gael gan ffrindiau, teulu neu bobl yn y gymuned?

Dwyf i ddim yn credu bod y bobl o fy nghwmpas i’n gallu fy nghefnogi wrth gydnabod beth rwy’n ei wneud fel tad, maen nhw’n gwneud i mi deimlo’n rhyfedd am y dewisiadau rwy’n eu gwneud. Yna weithiau, mae gwyrthiau’n digwydd. Er enghraifft rhoddodd fy nhad yng nghyfraith garej i ni a phenderfynais wneud stiwdio ar gyfer peintio ac ysgrifennu ac fe gefnogodd fy mhrosiect. Y foment honno roedd yna gydnabyddiaeth, yr ymdrech i werthfawrogi fy mod yn dad ac yn awyddus i greu lle gyda fy mab. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn bwysig iawn yn fy rôl fel tad. 

Wrth edrych yn ôl, beth oedd yn ddefnyddiol neu ddim yn ddefnyddiol? 

I fi roedd hi’n bwysig iawn cael pobl wrth fy ochr i oedd ddim yn gwneud beth oedd rhaid ei wneud, ond oedd yn gwneud beth oedden nhw’n meddwl oedd yn rhaid ei wneud. Heddiw mewn gofal preswyl mae tuedd i ddosbarthu a chategoreiddio’r plant mwyaf problemus, gan gysylltu eu hymddygiad cythryblus gyda rhyw batholeg, ond mewn gwirionedd mae’n fater o ‘ddod â’r hunan allan’.  Rwy’n credu bod hyn yn digwydd oherwydd bod llawer o addysgwyr wedi anghofio eu mandad. Ond yn ffodus nid yw hyn yn wir i bawb. Yn y gymuned roeddwn i’n rhan ohoni, roeddwn i’n creu problemau, ond roeddwn i’n teimlo’n ddilys. Roedd y chwaer Anna yn arfer dweud wrtha i ‘roedd angen i ti ddod â’r dicter yma allan’. Doedden ni byth yn cael ein beio, doedden nhw ddim yn ei roi arnon ni, fel petaen nhw’n dweud ‘rwyt ti’n anghywir neu rwyt ti’n wallgof’. Roedden nhw’n gwybod sut i fod yn amyneddgar gydag ymddiriedaeth. 

Pa gymorth / help fyddech chi wedi hoffi ei gael?

Rwy’n credu bod angen cefnogaeth ar bawb, achos mae amodau byw yn fwyfwy annerbyniol i bawb. Mae hyn hefyd yn dibynnu ar rwydwaith sydd ddim yn bodoli. Yna gall y rhwydwaith fod fel cawell braidd, mae’n gallu eich cyfyngu chi. Ond dyw’r microcosm cyfarwydd hwn ddim yn eich rhyddhau mewn unrhyw ffordd o rywfaint o’r cyfrifoldeb o leiaf. Efallai na fyddech chi’n gwbl rydd yn eich dewisiadau, ond fyddech chi ddim yn gwbl gyfrifol chwaith. Yn hytrach, fel hyn yma, gan ein bod i gyd yn cael ein gadael ychydig ar ein pen ein hun, dydyn ni ddim yn teimlo rhyddhad mewn unrhyw ffordd. Os ydw i’n gwneud rhywbeth yn anghywir, rwy’n anghywir ar fy mhen fy hun, ac os ydw i’n gwneud rhywbeth yn iawn, rwy’n iawn ar fy mhen fy hun. Hefyd, gallaf argymell therapi seicolegol i bawb, mae hynny hefyd yn rhywbeth i’w ddilysu. Oherwydd mae llawer o bobl bellach yn gwybod nad yw’n drosedd cael therapi neu gymryd cyffuriau os ydych chi eu hangen. Mae angen bwi ar bawb i gydio ynddo i gadw pen uwchben y dŵr, oherwydd mae nofio yn y môr agored yn flinedig ar ôl ychydig. Mae pawb yn dod o hyd i’r bwi yma ac yn ei lunio ar bwynt penodol mewn bywyd, ac efallai y byddai’n gwneud lles i gael ychydig mwy o ddealltwriaeth o’r bwi mae pob un yn ei ganfod. 

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i weithwyr proffesiynol, sefydliadau neu lywodraethau i wneud magu plant / bod yn rhiant yn brofiad cadarnhaol i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn y dyfodol? 

Rwy’n credu ei bod yn bwysig siarad am y materion hyn, am ein profiad ni fel rhieni. A bod angen i ni barhau i siarad am y peth, neu’n hytrach ddechrau siarad amdano, gyda’r ymchwil rydych chi’n ei wneud yn sbardun o bosibl.

Mae’r Blog hwn yn rhan o’n cynhadledd ExChange, “Mae’n Cymryd Pentref: Safbwyntiau byd-eang ar rieni sydd â phrofiad o ofal”

I ddod o hyd i fwy o adnoddau ar y pwnc hwn edrychwch ar y cynadleddau isod