Dwi’n dod o’r Eidal ond dwi o dras Albanaidd (h.y. o Albania). Fel plentyn, treuliais 13 blynedd mewn gofal preswyl. Cefais fy mhlentyn cyntaf pan oeddwn yn 23 oed ac fy ail un pan oeddwn yn 26 oed.

Beth mae bod yn rhiant yn ei olygu i chi?  

I mi roedd ac mae bod yn rhiant yn debyg i ail-fyw plentyndod i raddau, yn yr ystyr eich bod chi’n gallu wynebu’r hyn roeddech chi’n ei golli pan oeddech chi mewn gofal. Felly, mae gweld yr hyn y gallwch ei roi i’ch plant yn tynnu sylw at yr hyn a oedd ar goll ar lefel gymdeithasol, bersonol a rhyngbersonol. Mae hefyd yn golygu ychydig o adennill yr hyn a gollais, yn enwedig yn y berthynas â rhieni: cael fy ngharu yn ddiamod.

Ydych chi’n credu bod eich profiadau wrth dyfu yn effeithio ar y ffordd rydych chi’n magu plant?

Y peth cyntaf yw yr oeddwn eisiau teulu erioed ac roeddwn yn ddigon ffodus i ddod o hyd i bartner a oedd â’r awydd hwn fel fi. Felly priodais a chefais blant yn gynnar. Dyna’r peth cyntaf a wnaeth y gwahaniaeth: eisiau teulu a gallu ei greu. Yn ail, rwy’n credu fy mod yn gallu canfod llawer mwy o bethau, yr hyn sydd ar goll, ond dwi hefyd yn gallu teimlo empathi gwahanol â’m plant. 

Pa gymorth rydych chi’n ei gael neu wedi’i gael gan weithwyr proffesiynol? 

Roeddwn yn ddigon ffodus i fyw mewn cymuned nad oedd yn cefnu arnaf pan oeddwn yn 18 oed ac a oedd yn fy nghefnogi cyhyd ag y dymunwn. Roedd yn beth dwyochrog. Nid cymorth y rhieni yn yr ystyr gaeth oedd e cymaint â’r cwmni wrth adael gofal. Esboniodd rhai pobl wrtha i beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n gadael, hyd yn oed rhai pethau ymarferol fel chwilio am swydd, tŷ. Ond roedd hefyd yn gymorth meddyliol, yn gymorth trefniadol, sut i strwythuro bywyd fel oedolyn. Felly i mi roedd yn fendith bod â’r bobl hyn yn fy mywyd, hefyd wrth gyrraedd bod yn rhiant. 

Pa gymorth rydych chi’n ei gael neu wedi’i gael gan ffrindiau, aelodau’r teulu neu bobl yn y gymuned?

Ar ryw adeg roeddwn i eisiau dianc o’r amgylchedd y tu allan i’r teulu. Pan rydych gyda’r un bobl drwy’r amser, sydd bob amser yn cael yr un problemau â chi, mae’n anodd dianc rhag hynny. Oherwydd, ar ryw adeg pan fo’r un fath o bobl o’ch cwmpas, rydych ci’n gwneud yr un pethau. Ac yn lle hynny roeddwn i eisiau torri i ffwrdd i weld rhywbeth arall. Felly roedd symud i ffwrdd a threulio amser gyda phobl eraill, a gafodd eu magu mewn teuluoedd ‘normal’, yn fy ngalluogi i weld pethau eraill. Yno y cwrddais i â’m gwraig ac roedd yn help mawr i ni bod gennym ei rhwydwaith teuluol yn anad dim. Wrth gwrs nid yw hyn yn amlwg, yn yr ystyr nad yw tyfu i fyny mewn teulu yn gwarantu y bydd rhwydwaith teuluol i’ch helpu chi. Ond fe wnes i ddod o hyd i fy ngwraig a’i theulu, teulu cadarnhaol. Gyda’r holl gyfyngiadau ac anawsterau sydd ym mhob teulu, maen nhw bob amser wedi bod yno ac wedi ein cefnogi ni lawer wrth fagu’r plant a gwella rhywfaint o ddeinameg deuluol.

Wrth edrych yn ôl, beth oedd yn ddefnyddiol neu ddim yn ddefnyddiol? 

I bobl falch fel fi, mae’n anodd gofyn am help: rydych chi bob amser yn meddwl ei fod yn arwydd o wendid ac rydych chi’n ei chael hi’n anodd. Ac yn lle hynny, yr hyn y dylid ei gydnabod, ei ddweud a’i egluro i bobl ifanc sy’n gadael ‘allan o’r teulu’ neu’n agosáu at fod yn rhiant, yw na allwch wybod popeth mewn bywyd;  mae’n amhosibl mewn gwirionedd. Felly’r peth gorau y byddwn i’n ei awgrymu i bob rhiant yw peidio â bod ag ofn gofyn cyngor gan y rhai sy’n gwybod mwy na chi, p’un a ydyn nhw’n weithwyr proffesiynol, yn rhieni eraill, neu’n bobl â phrofiad o fod mewn gofal. Mae gofyn am gyngor yn gwneud gwahaniaeth mawr. Rwyf wedi deall hyn dros amser ac yn ei ddefnyddio’n aml; rwy’n dal i wneud hyn. Mae fy mab yn dechrau mynd trwy ei lasoed ac nid wy’n gwybod sut i ddelio ag ef. Ac felly rwy’n wynebu pobl eraill ac mae byd diddiwedd yn agor pan fyddwch chi’n dechrau gofyn am bethau. Ac efallai mai dyna’r unig gyngor y gallaf ei roi i unrhyw un, nid dim ond y rhai sydd wedi bod mewn gofal. 

Pa gyngor y byddech chi’n ei roi i weithwyr proffesiynol, sefydliadau neu lywodraethau i wneud magu plant/bod yn rhiant yn brofiad cadarnhaol i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn y dyfodol? 

Yn fy marn i, dylai pobl, a hefyd sefydliadau, wneud rhywfaint o waith ar hyn mwy na thebyg. Dylai pobl gael eu haddysgu i wrando. Mewn cyfarfodydd, ar gyrsiau hyfforddi ac acti, mae rhywun bob amser yn esbonio pethau, ond yn fy marn i, dylai ddechrau gyda chwestiynau, i addysgu pobl i ofyn am gyngor. Nid yw magu plant yn rhywbeth sy’n cael ei ddweud neu ei egluro, mae’n rhywbeth sy’n cael ei fyw, ac mae cwestiynau’n codi wrth i bethau ddigwydd. Felly mae’n debyg y dylem addysgu mwy am wrando a gwneud i bethau ddod o gwestiynau pobl. Yna mae’n iawn bod gweithwyr proffesiynol yn ymyrryd ac yn esbonio, oherwydd y tu ôl i’r ffaith bod rhywbeth yn digwydd efallai y bydd damcaniaethau, deddfau, ond nid esboniad yw’r peth cyntaf y dylid ei roi.

Mae’r Blog hwn yn rhan o’n cynhadledd ExChange, “Mae’n Cymryd Pentref: Safbwyntiau byd-eang ar rieni sydd â phrofiad o ofal”

I ddod o hyd i fwy o adnoddau ar y pwnc hwn edrychwch ar y cynadleddau isod