Rwy’n dod o’r Eidal. Fel plentyn treuliais 8 mlynedd mewn gofal maeth, mewn 4 teulu gwahanol (roedd deulu yn berthnasau i mi). Ganwyd fy merch gyntaf pan oeddwn i’n 25 a’r ail pan oeddwn i’n 29. 

Beth mae bod yn rhiant yn ei olygu i chi?

I mi, mae bod yn rhiant yn golygu magu fy mhlant gyda chariad. Dyna yw craidd fy null o fagu fy mhlant. Roedd gan fy rhieni fethiannau gyda fi, felly rwy’n gwybod beth rydw ei eisiau ac nad ydw ei eisiau i fy mhlant. 

Ydych chi’n credu bod eich profiadau wrth dyfu yn effeithio ar y ffordd rydych chi’n magu plant?  

Rhoddodd fy mhrofiadau fel plentyn fwy o sensitifrwydd a mwy o benderfyniad i mi.  

Mae’r profiadau negyddol wedi dylanwadu ar fy mywyd, ond rwyf i wedi ceisio tynnu ar y pethau da oedd yna hefyd; er enghraifft, yn ogystal â pheidio ag ailadrodd esiampl fy mam, sylweddolais, gydag amser a diolch i brofiad mwy helaeth, bod angen ei helpu ac nid ei gwthio i ffwrdd. Felly, yn ogystal â dod â’r cylch dieflig y gallwn fod wedi syrthio iddo i ben, cafwyd aileni, dechrau newydd. 

Ar ben hynny, cefais gyfle i brofi enghreifftiau cadarnhaol iawn a cheisio eu trosglwyddo i fy merched. Er enghraifft, mae fy rhieni maeth wedi rhoi cymaint i fi, rhywbeth mor syml â darllen, rhywbeth na wnes i yn fy nheulu genedigol, ac rwyf i wedi rhannu hynny gyda fy merched. 

Pa gymorth ydych chi’n ei gael neu wedi’i gael gan weithwyr proffesiynol? 

Daeth fy nghymorth seicolegol i ben yn un ar hugain oed a doeddwn i ddim yn derbyn nac angen cymorth wedyn. Roeddwn i’n dibynnu llawer ar y fydwraig pan gafodd fy merched eu geni, yr un o’r system iechyd. Hefyd fe ddilynais y cwrs cyn-geni gyda hi. Roeddwn i’n teimlo bod angen hyn gyda fy mhlentyn cyntaf a’r ail, fel mater o ddiogelwch. Ac mae’r fydwraig yn eich cefnogi chi, pwy bynnag yw’r rhiant, boed ganddo fe/hi ddiffygion neu deulu gwych yn gefn. Mae posibilrwydd o gwrdd â hi bob wythnos i bwyso’r babi, mae hi’n rhoi rhywfaint o gyngor ar fwydo ar y fron… Mae hyn wedi bod o gymorth mawr i mi, yn enwedig gan nad oes gen i fam. 

Pa gymorth ydych chi’n ei gael neu wedi’i gael gan ffrindiau, teulu neu bobl yn y gymuned? 

Roedd fy ngofalwyr maeth bob amser yn barod i helpu heb fod yn ymwthiol. Roedden nhw’n bobl y gallwn i ddibynnu arnyn nhw. Ac mae hynny’n dal i fod yn wir heddiw. Os ydw i eu hangen nhw, maen nhw yno. Bu farw fy nain ac ar unwaith roedd y fam faeth ar gael i ofalu am y plant, tra bod ei phartner wrth fy ochr yn yr angladd. Maen nhw’n bobl nad oes angen gofyn iddyn nhw, rydych chi’n gwybod eu bod nhw yno. Os oes gen i broblem, maen nhw’n fan cyfeirio. Mae gan rai pobl rieni, mae gen i ofalwyr maeth. 

Wrth edrych yn ôl, beth oedd yn ddefnyddiol neu ddim yn ddefnyddiol?  

Y peth mwyaf defnyddiol am fy mhrofiad o faethu fu’r tair blynedd gyda’r teulu sy’n dal i fy nghefnogi. Mae wedi bod yn ddefnyddiol yn yr ystyr eu bod wir wedi newid holl bersbectif fy mywyd. Hynny yw rwyf i bob amser wedi bod yn berson cadarnhaol, siriol, ac er gwaethaf yr hyn oedd yn digwydd gartref, pan oeddwn i’n mynd allan, roeddwn i’n gallu ei adael. Roedd y teulu hwnnw yn fy ngalluogi i ddeall yn iawn beth mae byw bywyd teuluol da’n ei olygu. Roedden nhw’n addysgwyr gwirioneddol, byth yn dweud ‘dyma sut i wneud hyn’ ond drwy edrych ar eu hesiampl. Pe na bawn i wedi mynd i ofal maeth rwy’n credu y byddwn i wedi bod fel oedd fy mam gyda fi, byddwn i wedi codi fy nyrnau, a bod yn dreisgar.  

Pan rwy’n meddwl amdanyn nhw, rwy’n cofio ffilm lle’r oedd athro oedd yn sylweddoli bod gan un o’i ddisgyblion broblemau yn ei deulu, ond ei fod yn hynod o ddeallus. Mae’r athro’n ceisio ei helpu fe a’i fam, ac ar y diwedd mae’r plentyn yn diolch iddo. Ond mae’r athro’n dweud wrtho mai fe bellach yw’r un sy’n gorfod dychwelyd y ffafr. Ac rwy’n teimlo fel hynny nawr, mai fi sy’n gorfod dychwelyd y ffafr, oherwydd fy modd wedi cael y cyfle gwych hwn a ffafr fawr. 

Pa gymorth / help fyddech chi wedi hoffi ei gael?  

Yn 21 oed, mae’r cyfle i gael cymorth seicolegol yn dod i ben. I mi roedd fel cwtsh, felly bob wythnos rwy’n dyheu am ymweld â’r seicolegydd, eistedd a siarad am unrhyw beth, achos mae’n foment i fi. Hoffwn i ni, sydd â phrofiad o ofal, gael y gefnogaeth honno. Wn i ddim ai oherwydd ein bod yn fwy bregus, falle nad yw’n wir ein bod yn fwy bregus, oherwydd mae gan bawb yn y teulu ryw broblem. Ond hoffwn i bawb gael y posibilrwydd o gael seicolegydd yn yr un ffordd â meddyg teulu. 

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i weithwyr proffesiynol, sefydliadau neu lywodraethau ynglŷn â gwneud rhianta/bod yn rhiant yn brofiad cadarnhaol i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn y dyfodol?

Y peth cyntaf yn sicr yw cymorth seicolegol, y posibilrwydd o weithiwr proffesiynol cymwys, o’m dewis i, rhywun rwy’n gwybod eu gwerth. Mae hyn oherwydd ei bod yn bwysig gwybod y gall rhywun eich cefnogi chi, ar wahân i’r teulu maeth. Mae gan bob un anawsterau rydyn ni’n brwydro i’w goresgyn ar ein pen ein hun, ac efallai fod ei angen arnon ni. 

Yna ar lefel economaidd, pe na bai gen i fy mhartner sydd â sicrwydd economaidd, byddwn i wedi dechrau dan anfantais. Gadewais gartref heb yr un 1€, es i weithio ac roedd gen i’r hyn a enillais, a gorfod gofalu amdanaf fy hun. Roedd gan fy mhartner ychydig mwy ac felly roedd yn sicrwydd i ni, ond nid felly mae hi i bawb. Felly byddai cymorth ariannol yn bwysig, fel yr hyn y gall eich rhieni ei roi i chi. Gallai sefydliadau roi’r hyn na allai eich rhieni i chi, hyd yn oed ychydig bach o help. 

Mae’r Blog hwn yn rhan o’n cynhadledd ExChange, “Mae’n Cymryd Pentref: Safbwyntiau byd-eang ar rieni sydd â phrofiad o ofal”

I ddod o hyd i fwy o adnoddau ar y pwnc hwn edrychwch ar y cynadleddau isod

asdasdas