Zuzanna Oliwkiewicz, Prifysgol Caerdydd

Fy enw i yw Zuzanna, rwy’n astudio’r gwyddorau dynol a chymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd. Ces i’r cyfle i weithio gyda CASCADE dros y semester diwethaf fel rhan o’m taith lleoliad gwaith. Rwyf wedi ymuno â chyfarfodydd, â gweminarau, wedi chwilio am leoliadau a hyd yn oed wedi cael fy mherswadio i helpu gyda’r symudiad mawr! Wrth i mi fwynhau cynllunio a threfnu, mae gweithio yn CASCADE wedi fy helpu i gael cip slei ar sut mae mewn gwirionedd i drefnu digwyddiadau yn y byd go iawn.

Es i i weminar ‘Asedau, Cryfder a Rhesymoldeb: Integreiddio Dulliau mewn Theori ac Ymarfer fel cyd-gyflwynydd, a oedd yn caniatáu i mi ennill dealltwriaeth am yr hyn sy’n digwydd y tu cefn i lwyfan digwyddiad (ac roedd yn gyffrous ond yn peri ychydig o straen gan fod yn rhaid i mi fod yn ofalus a pheidio â chlicio unrhyw fotymau a fyddai’n dod â’r alwad Zoom gyfan i ben!). Roedd bod yn y weminar yn ddiddorol i mi fod a finnau’n wyddonydd cymdeithasol ond hefyd yn fyfyriwr. Fel myfyriwr, mwynheais i’r ffaith bod y sleidiau yn cael eu cyflwyno ar sgriniau gwylwyr; roedd gwneud y profiad yn weledol yn ogystal ag yn glywadwy yn helpu’r profiad i ddod yn fwy cofiadwy.  Fel gwyddonydd cymdeithasol, fe wnes i wir fwynhau’r ffaith bod y ffocws ar oedolion. Roeddwn i’n gwerthfawrogi’n fawr y ffaith bod ymdrechion o’r fath yn cael eu hatgyfnerthu’n gadarnhaol wrth helpu oedolion mewn gofal cymdeithasol, gan eu hatgoffa nad yw byth yn rhy hwyr i newid. Mae bodolaeth pwnc y weminar ei hun yn dangos yr ymdrechion i addysgu mwy o bobl am y systemau a’r dulliau hyn, a phrofwyd bod llawer o bobl yn barod i gael eu haddysgu, gan fod 70 o westeion yn bresennol yn ystod yr alwad.

Mae’n wych gweld camau cadarnhaol tuag at newid y gymuned a chanolbwyntio ar yr hyn y gall pobl ei wneud, nid yr hyn na allan nhw ei wneud. Yn ystod y weminar, dywedodd yr Athro Jon Franklin fod ‘angen i ni newid y cwestiwn, yn hytrach na: beth sy’n bod arnoch chi? sut gallwn ni eich trwsio chi? Rydym yn gofyn: beth sy’n bwysig i chi? sut gallwn ni eich helpu i gyflawni hynny?’. Roedd y dyfyniad hwn yn sefyll allan i mi mewn gwirionedd, gan ei fod yn cadw’r ffocws i ffwrdd o’r ‘unigolyn fel problem’. Ni ddylid gwneud i bobl mewn gofal cymdeithasol deimlo eu bod yn broblem neu’n faich, mae dulliau sy’n seiliedig ar gryfderau yn helpu unigolion i sylweddoli eu bod yn gallu cael canlyniadau cadarnhaol. Gall rhoi hyder i bobl iddynt ddod o hyd i briodoleddau, i sgiliau ac i ddoniau cadarnhaol ynddynt eu hunain i’w helpu gydag ansawdd eu bywydau, gan wneud iddynt deimlo fel aelodau gwerthfawr o’r gymdeithas. Ar y cyfan, roedd y weminar yn brofiad anhygoel a byddwn yn ei argymell i unrhyw un! Rwy’n credu ei bod mor bwysig cadw ein meddyliau ar agor a pharhau i’n haddysgu ein hunain ochr yn ochr â’n bywydau bob dydd prysur.

Mae fy mhrofiad o weithio gyda CASCADE wedi bod yn bleserus iawn, mae wedi bod yn fuddiol i mi weithio mewn amgylchedd proffesiynol ond ymlaciedig. Mae bod y tu ôl i lenni digwyddiadau y byddwn fel arfer yn westai ynddynt wedi fy helpu i feithrin fy niddordeb mewn trefnu digwyddiadau. Hoffwn orffen y blog hwn drwy ddweud diolch i Dan, i Jo ac yn enwedig i Siân am wneud fy mhrofiad yn CASCADE mor wych!

zanna Oliwkiewicz, Prifysgol Caerdydd