Ariennir y prosiect hwn gan Arloesi Digidol GCRF ar gyfer Datblygu yn Affrica (DIDA).
Ynglŷn â CoMaCH
Mae’r Rhwydwaith Cyd-Ddylunio Ymyriadau TGCh yn y Gymuned ar gyfer Iechyd Mamau a Phlant yn Ne Affrica (CoMaCH) yn dwyn ynghyd ymchwilwyr ac ymarferwyr o Dde Affrica, y DU, a thu hwnt. Rydym yn cydnabod mai anaml y mae aelodau’r gymuned yn cael eu grymuso i leisio’u blaenoriaethau eu hunain a chymryd rhan weithredol yn y gwaith o ddylunio ymyriadau sydd â’r nod o fod o fudd iddynt. Rydym yn dadlau dros ddull cyd-ddylunio, i gynnwys aelodau o’r gymuned yn radical wrth ddylunio nid yn unig ymagweddau newydd at wasanaethau digidol Iechyd Mamau a Phlant yn ystod y 1000 diwrnod cyntaf, ond dyluniad ymchwil gyda’r bwriad o arloesi’r dulliau newydd. Y nod yw sefydlu perthnasoedd newydd ac ysgogi ymchwil ac arloesi newydd ac ariennir y rhwydwaith gan Arloesi Digidol GCRF ar gyfer Datblygu yn Affrica.
Gweminarau CoMaCH
Mae’n anhygoel faint o arloesi sy’n digwydd ym maes gwasanaeth digidol Iechyd Mamau a Phlant. Mae’r gyfres hon o weminarau CoMaCH yn rhoi cyfle i ddysgu mwy gan yr arbenigwyr am yr hyn sy’n digwydd yn Ne Affrica a thu hwnt ym maes cyd-ddylunio ymyriadau TGCh yn y gymuned ar gyfer Iechyd Mamau a Phlant. Ymunwch â ni!
Amserlen Cyfres Gweminarau CoMaCH: https://comach.melissadensmore.com/webinars/
Recordiad o Weminar Chwef: https://www.youtube.com/watch?v=fHOjvjxSo3w&t=13s
Cadwch y dyddiad a cofrestrwch am y weminar nesaf:
Mer 21 Ebrill, 2-3pm SAST | 1-2p BST | 12-1p UTC – Prosiect Iechyd Meddwl Amenedigol ar Addasu ac Ymateb i COVID-19