Mae Reflect yn wasanaeth sy’n gweithredu dros 11 o safleoedd yng Nghymru, gan gwmpasu 20 o awdurdodau lleol. Mae’r 11 safle hyn naill ai’n cael eu rhedeg gan yr awdurdod lleol, neu’n cael eu comisiynu i un o ddwy elusen plant, Barnardo’s ac Action for Children. Mae Reflect yn darparu cymorth pwrpasol a chyfannol i rieni y mae un neu fwy o’u plant wedi cael eu tynnu o’u gofal yn barhaol, gyda’r nod o dorri’r cylch achosion gofal rheolaidd. Cynhaliwyd y gwerthusiad cyntaf o’r gwasanaeth Reflect yng Ngwent gan Louise Roberts a chydweithwyr yn 2018 – Gwerthusiad o Reflect yng Ngwent: Adroddiad terfynol.
Lawrlwytho: Gwerthusiad o Reflect yng Ngwent
Cynhaliwyd y prosiect ymchwil hwn yn 2021 fel rhan o radd Meistr ym Mhrifysgol Caerdydd a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Gymdeithasol Economaidd, a ffurfiodd ran flaenllaw fy ymchwil ddoethurol gyfredol. Cyfwelais â 13 aelod o staff sy’n gweithio i’r gwasanaeth Reflect, naill ai fel rheolwyr neu ymarferwyr. Cwblhawyd taflenni gwybodaeth am wasanaethau hefyd fel y gellid cyflwyno data tebyg ar gyfer pob safle. Er bod tebygrwydd yn y ffordd y mae Reflect yn gweithredu ledled Cymru, roedd y canfyddiadau’n tynnu sylw at wahaniaethau allweddol hefyd o ran cysyniadu a darparu, yn enwedig o ran meysydd cymhwysedd ac amseru cymorth. Mae’r gwahaniaethau hyn yn seiliedig ar yr angen i gydbwyso anghenion rhieni ag adnoddau cyfyngedig a chyfyngiadau awdurdodau lleol. Er bod awydd i Reflect ddod yn fwy cydlynol, roedd yn amlwg efallai na fydd model ‘un math i bawb’ yn effeithiol. Fodd bynnag, byddai ymchwil bellach yn ceisio cynnwys rhieni a rhanddeiliaid ehangach er mwyn sicrhau cefnogaeth gyfartal ledled Cymru.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gam cyntaf y gwerthusiad hwn:
Lawrlwytho: Adroddiad Cryno: Astudiaeth yn archwilio sut mae gwasanaethau yng Nghymru yn cefnogi rhieni y mae eu plentyn wedi cael ei dynnu o’u gofal
Rwyf bellach yng ngham nesaf yr ymchwil hon (2021-2024). Bydd hyn yn cynnwys astudiaeth achos ansoddol a fydd yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i asesu sut y gweithredir y model Reflect, ac i roi dealltwriaeth o brofiadau parhaus y rhieni sy’n defnyddio’r gwasanaeth, a’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ynddo.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y prosiect neu os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, mae croeso i chi gysylltu â mi.
Sylvia Hoyland, Ymchwilydd Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, @sylviah2018