Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
Ymunwch â’r Sgwrs Mabwysiadu Fawr ar Ddydd Iau 27eg o Ionawr 10.00yb i 12.30yp
Helpu i lunio blaenoriaethau’r dyfodol ar gyfer mabwysiadu yng Nghymru Cofrestru – www.adoptionvoices.wales/?lang=cy
Mae’r rhith ddigwyddiad rhad ac am ddim hwn ar gyfer teuluoedd sy’n mabwysiadu, pobl wedi’u mabwysiadu, gweithwyr cymdeithasol, cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, uwch reolwyr, cynllunwyr strategol ac ymarferwyr yn y gymuned fabwysiadu.
Gan ddefnyddio canlyniadau diweddaraf adroddiad Baromedr Mabwysiadu Adoption UK ochr yn ochr â gwybodaeth arall, byddwn yn dechrau ystyried y blaenoriaethau a fydd yn llywio gwaith y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (GMC/NAS) wrth iddo ddatblygu cynllun Adopt Cymru 2025* sy’n dod i’r amlwg.
Cofrestrwch ar gyfer un o’r gweithdai sy’n dilyn,
1. Blynyddoedd yr Arddegau a Phontio i fod yn Oedolyn
2. Addysg
3. Cyswllt â theulu biolegol
4. Dod yn deulu mabwysiadol
Ar ôl cofrestru, byddwch yn cael ebost cadarnhau yn cynnwys gwybodaeth am ymuno â’r digwyddiad.
*Mae’r cynllun gwasanaeth presennol ar gyfer GMC yn rhedeg hyd at ddiwedd Mawrth 2022. Felly, nod GMC yw datblygu cynllun ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu Cymru hyd at ddiwedd 2025 – gelwir hwn yn Adopt Cymru 2025.
Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.