Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

Prosiect Ymgysylltu â Rhanddeiliaid – Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol yng Nghymru

Gweithdy i lansio’r Prosiect Ymgysylltu
Dydd Llun, 5 Rhagfyr 2022
2pm – 3pm
Arlein trwy Zoom 

Mae Llywodraeth Cymru’n cynnal adolygiad o’r gweithredu a’r cynnydd a wneir gan y Byrddau Diogelu Rhanbarthol, ac asiantaethau partner allweddol o’r sectorau statudol, y trydydd a’r sector preifat i weithredu’r Cynllun Gweithredu Cam-drin Plant yn Rhywiol i Gymru.

Gofynnwyd i Plant yng Nghymru gynnal gweithgareddau ymgysylltu gydag asiantaethau allweddol sydd wedi bod yn gweithio i wneud newidiadau o dan y cynllun, ac rydym am ddarganfod eich barn am yr hyn a ddigwyddodd o ganlyniad i’r cynllun, a chanlyniadau’r mentray hyn.

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.