Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

Cyfres Gweminar Thematig Hawliau Plant – Sesiwn 4
1 Rhagfyr 2022, 10yb – 11.00yb
Arlein trwy Teams
YN RHAD AC AM DDIM

Mae ein cyfres gweminar thematig Hawliau Plant yn tynnu ar linynnau allweddol Cynllun a Rhaglen Plant Llywodraeth Cymru. Bydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar bwnc gwahanol sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc, a’r nod yw rhoi gwell dealltwriaeth o’r cyfleoedd a’r rhwystrau sy’n bodoli wrth wireddu hawliau plant yng Nghymru. Mae’r gweminar hwn yn canolbwyntio ar iechyd meddwl positif.

Bydd y gweminar yn:

* Codi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl
* Rhoi gwell dealltwriaeth i chi o iechyd meddwl fel iselder, gorbryder
* Edrych ar yr hyn sy’n gweithio o ran meithrin gwydnwch, cynyddu lles a chynnig cymorth i bobl ifanc

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.