Mae myfyrwyr o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi cynhyrchu animeiddiad byr, ‘Llywio’r Storm’ sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth o effaith Trawma a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (TraCEs) mewn ffordd sy’n hawdd ei deall i bawb. Mae’r animeiddiad yn defnyddio trosiadau morol, y cwch (unigolion), y môr (bywyd), angor (gwydnwch), goleudy (gwasanaethau cymorth) i geisio egluro sut y gall pawb brofi trawma a sut gallwn ni i gyd ei brofi’n wahanol.