A minnau’n Gomisiynydd annibynnol Pobl Hŷn Cymru, fy rôl i yw amddiffyn a hyrwyddo hawliau pobl hŷn. Mae hyn yn rhan annatod o’m holl waith a’m blaenoriaethau — o fynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail oedran, atal camdriniaeth, i alluogi pobl i heneiddio’n dda. Ar adegau yn ein bywydau gall fod yn arbennig o bwysig ein bod yn gwybod ein hawliau — ac un o’r adegau hyn yw pan fyddwn ni, neu rywun yr ydym yn ei garu, yn symud i gartref gofal. 

Dyna pam, drwy weithio gyda sefydliadau arbenigol a phobl hŷn, rwyf newydd gyhoeddi dau ganllaw newydd ynghylch hawliau pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal. Mae’r rhain yn cael eu hanfon i bob cartref gofal yng Nghymru yn ogystal â chael eu dosbarthu’n ehangach. 

Mae gan bob un ohonom hawliau ac nid ydym yn colli’r rhain pan fyddwn yn symud i gartref gofal. Bydd gwybod ein hawliau yn ein helpu ni, ac unrhyw un sy’n ein cynorthwyo, i gael y wybodaeth yr ydym ei hangen wrth ddewis cartref gofal a symud yno. Unwaith y byddwn yn byw yno, gall gwybod ein hawliau helpu i sicrhau y gallwn wneud y pethau sy’n bwysig i ni, a’n bod yn gweld y bobl sy’n bwysig i ni. Mae eglurder ynghylch hawliau yn helpu pawb mewn cartref gofal — y bobl sy’n byw yno a’r bobl sy’n gweithio yno. 

Dangosodd y pandemig pa mor bwysig yw sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn cael eu deall a’u cynnal. Er bod gwahaniaethau ym mhenderfyniadau pedair gwlad y DU, ac yn y ffordd yr oedd y pedair gwlad yn cael eu rheoli, o ran yr ymateb i’r pandemig, roedd profiad pobl hŷn mewn cartrefi gofal yn debyg iawn. Rwyf felly’n gweithio gyda chydweithwyr ledled y DU ar raglen waith i wella hawliau pobl hŷn mewn cartrefi gofal drwy wella polisïau, ymarfer a diwylliant. 

Rwy’n gwybod, o brofiad personol, pa mor bwysig yw cartrefi gofal o ansawdd da i bobl hŷn, eu teuluoedd a’u ffrindiau. Maent hefyd yn rhan hanfodol o’r system iechyd a gofal ehangach, ac mae angen mwy o gydnabyddiaeth o hyn, a mwy o gydnabyddiaeth o’r gweithlu medrus a chwbl hanfodol hefyd.  

Ochr yn ochr â hyn, mae angen mwy o gydnabyddiaeth o’r ffaith bod cynnal hawliau pobl hefyd yn nodwedd allweddol o ofal o ansawdd uchel, a dyna pam mae gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o hawliau pobl — o fewn y sector cartrefi gofal ac ymhlith y gymdeithas ehangach — yn hanfodol.  

Heléna Herklots CBE 

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru