Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

9 – 19 Tachwedd 2022
Canolfan Mileniwm Cymru

The Museum of Nothingness yn profiad realiti estynedig (AR) ymdrochol newydd sy’n eich galluogi i gamu i mewn i feddwl Connor Allen, creawdwr The Making of a Monster.

Mae’r sioe grime-theatr fyw The Making of a Monster (9–19 Tachwedd, Stiwdio Weston) yn rhannu stori bersonol Connor am dyfu i fyny fel person hil gymysg yng Nghasnewydd a dod o hyd i’w hunaniaeth.

Wedi’i ddylunio i gael ei brofi ochr yn ochr â’r sioe fyw, mae The Museum of Nothingness yn cynnig taith ychwanegol i orffennol Connor, gan roi cipolwg mwy personol i chi o’r atgofion a ffurfiodd ac a ddiffiniodd ei lwybr unigryw.

Amseroedd agor:
Maw – Gwe 5pm – 7pm
Sad 12pm – 2pm, 5pm – 7pm
Hyd y perfformiad : 5 – 10 munud

Mynediad am ddim, does dim angen archebu.
Bydd dyfais symudol a chlustffonau yn cael eu darparu ar gyfer y profiad hwn.

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.