Llond lle o lesiant i ddangos plant a phobl ifanc anabl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden hygyrch

Seiliwyd astudiaeth ‘VOCAL’ ar hawl plant anabl i “orffwys, hamdden, chwarae a mwynhad a chymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chelfyddydol” (Cronfa Plant y Cenhedloedd Unedig 1989, t.10). Ni allai’r plant a gafodd eu cynnwys yn yr astudiaeth gerdded, ac roedden nhw’n defnyddio dulliau cyfathrebu amgen ac estynedig. Roedd yr ymchwil astudiaeth achos hon yn addasu damcaniaeth lleoli ac yn ail-fframio’r syniad o safle plentyn, mewn offer addas, mewn amgylchedd a fyddai’n ffafriol i’w gefnogi ef, a’r bobl a’i helpodd neu a’i rwystrodd mewn perthynas â chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden.

Mae papur newydd o’r astudiaeth yn amlygu’r amrywiadau mewn llesiant, sy’n golygu bod hwn yn gyflwr cyfnewidiol sy’n ansefydlog. Gall newid o fewn gweithgaredd i gynyddu neu leihau ymgysylltiad trwy amrywiaeth o ffactorau (Pickering et al 2023). Roedd trin anghenion pob plentyn yn hollbwysig ac roedd yn ymddangos bod rhai pobl yn gallu gwneud hyn, ond mae’n ymddangos bod eraill yn ei chael hi’n anodd, o bosib oherwydd diffyg gwybodaeth a phrofiad gyda phlant anabl. Roedd hyn yn gadael rhieni a’u plant, ar adegau, wedi drysu ynghylch pam yr oeddent yn honni bod gweithgaredd yn ‘gynhwysol’. 

Mae gan y papur ddelweddau o weithgareddau hamdden fel petaent o safbwynt y plentyn. Er eu bod yn ddi-enw, mae’n creu data gweledol i gynrychioli eu profiadau. Cefnogwyd y delweddau hyn gan ddata o gyfweliadau a dyddiaduron, Roedd tystiolaeth o lesiant y cyfranogwyr dieiriau hyn yn cynnwys bod yn gyfforddus, yn dawel, yn greadigol, ymgysylltu ag eraill a mynegi llawenydd. Mae’r lluniadau hyn yn cael eu harchwilio ymhellach i ddatblygu graddfa llesiant yn rhan o astudiaeth newydd am fuddion yr Innowalk Made For MovementSymud tuag at well dealltwriaeth o lesiant ar gyfer plant ag anableddau cymhleth trwy ddefnyddio Innowalk -ORCA (caerdydd.ac.uk).

I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn, cysylltwch â: 

Dr Dawn M Pickering, Uwch Ddarlithydd mewn Ffisiotherapi, Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd pickeringdm@caerdydd.ac.uk.Twitter: @DawnMPickering 

Cyfeirnodau:

Pickering, D. M. 2021. Beyond physiotherapy: voices of children and young people with cerebral palsy and their carers about ‘Participation’ in recreational activities (VOCAL). Traethawd PhD, Prifysgol Caerdydd.

Pickering, D., Gill, P. a Reagon, C. 2023. A kaleidoscope of well-being to authentically represent the voices of children and young people with complex cerebral palsy: a case study series. Disability and Rehabilitation. Ar gael yn https://www.tandfonline.com/eprint/CWZNSAXMCIAQNQKREMJD/full?target=10.1080/09638288.2023.2194680

United Nations Children’s Fund. 1989. United Nations Convention on the Rights of the Child [Ar-lein] Efrog Newydd: UNICEF.