Mae pecyn cymorth Gweithio gyda Thosturi wedi cael ei lunio i helpu pobl yng Nghymru i ddatblygu ymagweddau tosturiol yn y gwaith.

Mae pecyn cymorth Gweithio gyda Thosturi wedi cael ei lunio i helpu pobl yng Nghymru i ddatblygu ymagweddau tosturiol yn y gwaith a gwella’r rhyngweithio a’r canlyniadau rhwng staff, cwsmeriaid, cleientiaid neu ddefnyddwyr gwasanaethau.

Mae Gweithio gyda Thosturi wedi cael ei lunio i roi i staff ffeithiau a gwybodaeth, ynghyd ag awgrymiadau a gweithredoedd go iawn y gellir eu defnyddio yn eich bywyd gwaith pob dydd. Gall y pecyn cymorth hwn gynorthwyo staff wrth iddynt siarad â rhywun sy’n dioddef o iechyd meddwl gwael neu drallod emosiynol, neu wrth ei helpu.

Mae dangos tosturi – atoch eich hun ac at eraill – yn sgil y gellir ei dysgu. Nid yw gweithredu’n dosturiol yn galw am unrhyw adnoddau, amser nac arian penodol. Mae’n dibynnu ar eich gallu chi i uniaethu â chyflwr emosiynol rhywun arall ac, yn hanfodol, ar eich dymuniad i’w gynorthwyo. Y peth pwysicaf i’w gofio yw nad oes angen ichi fod yn arbenigwr i helpu rhywun sydd mewn trallod. Y peth mwyaf gwerthfawr yw nad yw’n teimlo ar ei ben ei hun a’i fod yn gwybod bod rhywun yn malio.

Pam ydyn ni wed’i Greu?

Bydd llawer o sectorau, gwasanaethau a gweithleoedd yng Nghymru’n rhyngweithio â phobl sydd mewn trallod emosiynol ac mae’n bwysig inni eu trin gyda thosturi. Mae angen inni gydnabod nad ydynt ar wahân i ni; rydym i gyd mewn trallod weithiau ac mae gan 1 o bob 4 ohonom iechyd meddwl gwael. Rydym eisiau hybu diwylliant lle mae gan bobl hyder i ofyn am help ac i roi help i eraill pan fo arnynt ei angen. Rhaid inni ddileu’r stigma o gwmpas trallod emosiynol.

Er mwyn hybu tosturi yn y gweithle, rydym wedi ymgynghori â chynrychiolwyr o amrywiaeth fawr o sefydliadau, llawer ohonynt yn staff rheng flaen, o’r heddlu i sefydliadau yn y trydydd sector i ganolfannau gwaith. Mae llawer o fuddion i weithredu â thosturi. Nid dim ond i’r gweithle mae’r pecyn cymorth hwn; mae wedi cael ei lunio i’ch annog i weithredu mewn modd mwy tosturiol yn eich bywyd eich hun, atoch chi’ch hun ac at y bobl o’ch cwmpas.

Buddion i’ch Gweithle:

  • Gall dysgu gweithredu gyda thosturi wella iechyd, hybu’ch lles a chryfhau’ch perthnasoedd.
  • Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys cyngor ymarferol ac awgrymiadau i staff ar y canlynol: sut i ymdrin â sgyrsiau anodd, trallod emosiynol – adnabod yr arwyddion, chwalu’r mythau – gwybod y ffeithiau, sut i ddod yn wrandäwr gwell, argyfwng iechyd meddwl – beth yw e a beth allaf i ei wneud?
  • Gall dysgu’r sgiliau a meysydd gwybodaeth hyn wella canlyniadau i staff a chwsmeriaid, cleientiaid neu ddefnyddwyr gwasanaethau. Gall y tosturi a ddangosir iddynt yn y meysydd hyn effeithio ar y ffordd mae pobl yn gweld eu rhyngweithio ag unigolion a gwasanaethau a gall wneud iddynt deimlo bod rhywun yn eu gwerthfawrogi ac yn gofalu amdanynt.
  • Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys rhestr gynhwysfawr o sefydliadau defnyddiol a llinellau cymorth. Gall y rhain fod yn ddefnyddiol os oes angen i staff gyfeirio cwsmer, cleient neu ddefnyddiwr gwasanaeth i gael help.
  • Yn bwysicaf oll, gall tosturi newid ac achub bywydau.

Cymerwch ran yn eich gweithle!

Os hoffech gopi caled o’r pecyn cymorth neu os hoffech archebu rhai ar gyfer eich staff neu weithle, cysylltwch â Samariaid Cymru.

Cyhoeddwyd y neges hon yn wreiddiol ar wefan Samariaid Cymru.