Mae teuluoedd ledled Cymru yn teimlo’r straen ar gyllidebau eu cartrefi oherwydd costau byw cynyddol, gan wneud y cymorth ychwanegol hwnnw’n bwysicach nag erioed. Nid yw llawer o bobl yn ymwybodol y gallai fod ganddynt hawl i fudd-daliadau a allai gynnig y cymorth sydd ei angen arnynt.
Nod ymgyrch ‘Hawlia Dy Arian’ yw:
- Codi ymwybyddiaeth ymhlith y rhai hynny ar incwm is, neu’r rhai y mae’r argyfwng costau byw yr effeithir arnynt, a allai fod yn colli cyfle i gael cyllid y mae ganddynt hawl i’w hawlio.
- Annog yr unigolion hynny i ffonio Advicelink Cymru i gael cyngor a chymorth ariannol annibynnol am ddim. Cysylltwch ag un o’n cynghorwyr heddiw drwy ffonio ein llinell gymorth rhad ac am ddim ar 0808 250 5700.
Bydd ein hymgyrch gyfathrebu genedlaethol, integredig yn fyw ym mis Ebrill a mis Mai. Rydym yn rhedeg hysbysebion teledu, radio, y tu allan i’r cartref, y wasg, digidol a chyfryngau cymdeithasol ac mae angen eich cefnogaeth arnom i helpu lledaenu’r neges.
Llywodraeth Cymru wedi llunio pecyn cymorth o adnoddau.
Ewch i’r wefan i gael gwybod mwy am sut i gael cymorth.