Gwerthusiad o Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau (RRRS) a chyllid blynyddoedd cynnar. Nod y rhaglen oedd lliniaru effeithiau’r pandemig ar ddysgwyr drwy gynyddu capasiti staff mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar ac ysgolion.

Prif ganfyddiadau:

  • Amcangyfrifir bod 2,452 o staff Cyfwerth ag Amser Llawn (FTE) mewn ysgolion wedi cael eu hariannu gan RRRS.
  • Mae penderfyniadau ynghylch dyraniadau cyllid wedi cael eu harwain yn bennaf gan anghenion dysgwyr a’r elfen arweiniol yw gwybodaeth ysgolion eu hunain am eu dysgwyr.
  • Roedd cyngor a chefnogaeth gan awdurdodau lleol yn fwy rhagnodol i leoliadau gofal plant nag i ysgolion.
  • Cymorth lles fu’r dull mwyaf effeithiol. Mae’r ffocws hwn wedi bod yn elfen ganolog ym mhob maes dysgu i gynyddu ymgysylltiad a galluogi datblygiad plant mewn addysg gynnar.

Adroddiadau:

Gwerthuso Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau a Rhaglenni’r Blynyddoedd Cynnar

Gwerthusiad o’r Rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau – Crynodeb Gweithredol (Ysgolion)

Gwerthuso Rhaglenni Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau a Blynyddoedd Cynnar – Crynodeb Gweithredol (Addysg Gynnar)