Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

6 Gorffennaf 2023
10am – 4pm
Ar-lein – Zoom
Codir ffi

Gall gofalwyr maeth fod yn destun honiadau a/neu gwynion a fydd yn effeithio ar yr aelwyd faethu gyfan a’u dyfodol o ran bod yn rhoddwyr gofal. Sut ddylem ni’r proffesiwn ymateb i’r sefyllfaoedd hyn mewn modd sensitif, amserol, gan roi sylw dyledus i ddiogelu plant yn ogystal ag anghenion gofalwyr a’u haelwydydd?

Bydd y cwrs agored hwn yn mynd i’r afael â’r broses ar gyfer gwahaniaethu rhwng pryderon ynghylch safonau gofal a honiadau neu gwynion, gyda chyfleoedd i rannu arfer da wrth recriwtio, adolygu a chefnogi gofalwyr maeth.

Y deilliannau dysgu

  • Sicrhau bod ymarfer yn canolbwyntio ar ddiogelu’r plentyn
  • Ystyried pwysigrwydd paneli, goruchwyliaeth ac adolygiadau o ofalwyr maeth wrth fonitro anghenion y plentyn/person ifanc a gallu gofalwyr maeth i ddiwallu’r anghenion hyn
  • Ystyried y fframwaith deddfwriaethol a’r arferion gorau wrth reoli honiadau a monitro safonau gofal
  • Bod yn gyfarwydd â’r broses ar gyfer gwahaniaethu rhwng pryderon ynghylch safonau gofal a honiadau neu gwynion
  • Bod yn ymwybodol o ffyrdd o reoli risg o ran gofal maeth er mwyn lleihau pryderon o ran diogelu
  • Ystyried pwysigrwydd perthnasoedd cadarnhaol rhwng gofalwyr maeth, gweithwyr proffesiynol a’r gwasanaeth maethu sy’n cynnwys datblygu a rhannu arfer da yn ogystal â mynd i’r afael â phryderon mewn ffordd amserol

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.