Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

Actifyddion Artistig: Rhaglen celfyddydau a diwylliant

Drwy gydol mis Gorffennaf ac Awst mae Actifyddion Artistig yn gweithio gyda phartneriaid ledled y ddinas i gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau celfyddydol hwyl i blant, pobl ifanc a theuluoedd.

Byddwn yn diweddaru rhaglen weithgareddau Haf o Hwyl Actifyddion Artistig yn rheolaidd ar ein gwefan, felly cadwch olwg ar www.artsactive.org.uk. Hefyd, byddwn yn postio gwybodaeth fanylach am y digwyddiadau hwyl hyn drwy ein cyfryngau cymdeithasol.

Perfformiadau:

Achos Rhyfeddol Aberlliw – Perfformiadau Cymraeg (5+)
The Curious Case of Aberlliw – English performances
24, 25 & 26 Mis Awst @ 11am, 12pm, 1pm, 2pm, 3pm, & 4pm.

Anturiaeth awyr agored i’r teulu i gyd sy’n archwilio’r hud sydd y tu mewn I bob un ohonon ni.

Dyma sut mae’n gweithio:

  1. Bwciwch eich tocynnau. Fe dderbyniwch chi wybodaeth am y lleoliad, ynghyd â manylion yr ap y byddwch chi’n ei ddefnyddio wrth ddilyn eich llwybr. Cewch chi islwytho’r ap i’ch dyfais eich hunan , neu gael benthyg un o’n cyfrifiaduron llechen ni. Argymhellwn eich bod yn defnyddio’r ap ar sgrîn fwy o faint, ond gallwch chi ei ddefnyddio ar ffôn hefyd.
  2. Ar ddiwrnod y fenter – byddwch yn cyrraedd eich lleoliad ar yr amser a drefnwyd ichi ddechrau dilyn eich llwybr, ac yn dysgu manylion y digwyddiadau rhyfedd yn Aberlliw gan ein hasiantiaid sydd ar y safle. Byddwch chi’n cael eich tywys ar hyd y llwybr gan ddefnyddio’r ap, ac yn cyflawni tasgau ar hyd y ffordd gydag ychydig o help gan uwch-asiantiaid yr Adran.
  3. Ewch adref i orffwys. Dych chi’n ei haeddu!

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.