Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
09:30 – 16:00
14 Mehefin 2022
12 Gorffennaf 2022
17 Awst 2022
06 Rhagfyr 2022
Cwrs Undydd
Mae’r cwrs yn hwyl ac yn cynnwys ymarferion gafaelgar.
Bydd y cwrs yn nodi’r fframwaith damcaniaethol a deddfwriaethol ar gyfer cyfranogiad plant yng Nghymru ac yn cynnwys technegau y gellir eu defnyddio’n uniongyrchol gyda phlant. Bydd mwyafrif y cwrs yn archwilio’r dulliau y gellir eu defnyddio gyda phlant ar sail unigolyn a grŵp i’w cynnwys mor eang â phosibl mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd. Bydd cyfranogwyr yn teimlo eu bod wedi’u grymuso i ddefnyddio offer ymarferol i gefnogi cyfranogiad plant a phobl ifanc
Mae’r cwrs hwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru wedi’i anelu at y sefydliadau hynny sy’n gweithio’n bennaf gyda disgyblion oed cynradd i uwchradd iau.
Amcanion dysgu:
- Cael dealltwriaeth o Hawliau a Chyfranogiad Plant
- Beth mae ‘cyfranogiad’ yn ei olygu i blant o wahanol oedrannau
- Meddu ar ddealltwriaeth o’r Fframwaith Deddfwriaethol
- Ennill sgiliau ar gyfer gweithio gyda Phlant
- Rhwystrau ac atebion posibl i gyfranogiad
- Datblygu Cynllun Gweithredu sefydliadol
Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.