Luci Gorell Barnes

Prosiect The Racialised Experiences: (RESPECT) Education, Children and Trust yn ymateb i’r diffyg cymharol o lenyddiaeth am effaith hiliaeth ar blant ifanc yn y DU.

Buom yn gweithio mewn tair ysgol gynradd yn Lloegr, gan wahodd naw deg o bobl ifanc rhwng 10 i 11 oed i fynegi eu profiadau bywyd o hiliaeth. Gan dynnu sylw at gefndiroedd addysg, seicoleg a chelfyddydau sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol y tîm, a defnyddio dull ble roedd y plant yn tynnu amlinell o gwmpas ei gilydd ar ddarnau hir o bapur, ac yna defnyddio’r amlinelliad fel ‘map corff’, roedd y plant yn gallu cynrychioli eu profiadau a’u hymwybyddiaeth o hiliaeth. Wrth ddarlunio, ysgrifennu a thraethu, roedd y plant yn mynegi pethau yn eu ffordd eu hunain drwy fyfyrio ar sut y mae hiliaeth yn gwneud iddynt deimlo, a sut y maent yn profi’r teimladau hyn yn gorfforol, yn ogystal ag yn emosiynol.

Mae papur sydd newydd ei gyhoeddi o’r astudiaeth yn cyflwyno trosolwg o ddull ein hymchwil. Ynddo, rydym yn trafod sut y gwnaethom ddatblygu ein dull perthynol a moesegol sy’n seiliedig ar y celfyddydau. Ei nod oedd rhoi lleisiau’r plant yn gyntaf, a chefnogi eu trafodaethau am y berthynas gynnil a chymhleth rhwng eu bydoedd allanol a’u teimladau mewnol.

Roedd y plant yn disgrifio ystod o brofiadau negyddol, gan gynnwys yn yr ysgol, yn eu cymdogaeth, ac yn y cyfryngau, gan roi sylwadau fel, ‘Mae fel petai fod pobl sy’n wyn yn cael eu caru’n fwy’. Dywedodd llawer o gyfranogwyr nad oeddent yn aml wedi cael cyfleoedd i drafod hiliaeth a sut y mae’n gwneud iddynt deimlo. Mewn ymateb i hyn, rydym wedi creu llyfr gyda lluniau ar y cyd ‘If Racism Vanished for a Day….’ y gellir ei ddefnyddio i annog a chefnogi sgyrsiau gyda phlant eraill am hiliaeth. Rydym wedi gweithio gyda 17 o’r plant a gymerodd rhan yn yr astudiaeth i greu darluniau yn seiliedig ar themâu o’r gwaith ymchwil. Mae fersiwn ddigidol a chanllaw i athrawon ar gael ar-lein. Os hoffech chi gopi caled o’r llyfr yna cysylltwch â ni.

Disgybl wrth weithio ar eu darlun o fap y corff’ © Luci Gorell Barnes.

Luci Gorell Barnes – Artist sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol, darlunydd ac ymchwilydd doethurol – www.lucigorellbarnes.co.uk

RESPECT: https://respectprojectbristol.org/

I ddarllen llyfr y plant ar-lein: https://issuu.com/uwebristol/docs/if_racism_vanished_for_a_day

Canllaw i athrawon: https://respectprojectbristol.org/?page_id=187

‘Ble ydych chi’n ei deimlo gryfaf?’ Defnyddio mapio’r corff i ystyried profiadau bywyd o hiliaeth gyda phobl ifanc 10 ac 11 oed’: https://bera-journals.onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1002/berj.3980

Contact: Verity6.Jones@uwe.ac.uk