Mae astudiaethau ymchwil wedi canfod yn gyson ddiffyg ymgysylltiad rhwng gweithwyr cymdeithasol a thadau mewn ymarfer amddiffyn plant, sydd yn aml wedi arwain at golli cyfleoedd i dadau gael eu hasesu naill ai fel risg neu adnodd ar gyfer eu plant. Un rheswm pam nad yw tadau’n cael eu hystyried yw oherwydd bod mamau’n aml yn cael eu hadnabod fel prif ofalwr plant.

Yn hytrach na chanolbwyntio’n benodol ar y broblem a’r heriau yn y sefyllfa hon, nod fy astudiaeth PhD oedd archwilio sefyllfaoedd lle, yn ystod gweithdrefnau amddiffyn plant yn Lloegr, y tadau dibreswyl yw prif ofalwyr a gofalwyr llawn-amser eu plant.

Trwy feithrin lens Ymchwiliad Gwerthfawrogol, cafodd 13 o gyn-dadau dibreswyl a gweithiwr cymdeithasol eu plentyn eu recriwtio a’u cyfweld.  Er mwyn mynd i’r afael â’r mater o’m safleoldeb fy hun o fewn yr astudiaeth fel dyn, tad a chyn-weithiwr cymdeithasol amddiffyn plant, yn ogystal â chreu amgylchedd ymchwil lle gallai dynion rannu eu profiadau a’u teimladau, defnyddiais ddull naratif o gyfweld, a lle bo hynny’n bosibl, gyd-greu llinellau amser gyda’r tadau. 

Dangosodd yr astudiaeth y bydd tadau sy’n ymwneud ag amddiffyn plant, o gael y cyfle, yn ‘camu i fyny’ ac yn dod yn adnodd i’w plentyn pan nad yw mam y plentyn yn gallu gwneud hynny. Dangosodd y tadau alluedd ac ymrwymiad i’r asesiad a’u plentyn. Dangosodd y gweithwyr cymdeithasol hefyd lefel o resymu a disgresiwn wrth ystyried yr agweddau negyddol ar fywydau’r tadau, gan ddeall nad oedd y tadau’n dda nac yn ddrwg ond yn hytrach yn gyfuniad o’r ddau, a’r gallu i annog a herio i’r un graddau.  Yn bwysicaf oll, ac er gwaethaf ychydig o heriau, roedd y tadau a’r gweithwyr cymdeithasol yn gallu datblygu a chynnal perthynas, gan olygu bod y tadau’n gallu cynnig cartref i’w plant.

Fodd bynnag, amlygodd fy astudiaeth hefyd wendidau posibl mewn ymarfer gwaith cymdeithasol. Fel gweithiwr cymdeithasol, yn ymchwilio i ymarfer gwaith cymdeithasol, nid oeddwn bob amser yn cytuno’n llwyr â’r enghreifftiau o farn ac ymarfer proffesiynol a drafodwyd gan dadau a gweithwyr cymdeithasol yn fy astudiaeth yn eu cyfweliadau ymchwil.  Felly, y gobaith yw y gall canfyddiadau’r astudiaeth hon lywio a chryfhau ymarfer amddiffyn plant yn y dyfodol.

Gallwch gyrchu a darllen y traethawd PhD llawn yma https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/154254/

Gwybodaeth am yr awdur

Dr Lee Sobo-Allen

Cydymaith Ymchwil, CASCADE, Prifysgol Caerdydd

Cymrawd Ymchwil, Yr Ysgol Addysg, Prifysgol Birmingham

Manylion cyswllt:: Sobo-AllenL@cardiff.ac.uk

@soboallen