Dydd Llun, 16 Medi 2024
10:00 – 13:00
Ar-lein

Ymunwch â ni am sesiwn hyfforddi ar-lein sydd â’r nod o archwilio, deall yn well a chynyddu gwybodaeth am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs).

Trwy drafodaethau craff a sesiynau rhyngweithiol, byddwn yn:

  • Archwilio Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod
  • Cael gwell dealltwriaeth o’u heffaith ar blant ac oedolion yn ddiweddarach mewn bywyd
  • Cael gwell dealltwriaeth o gamddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl, cam-drin domestig a thrais a’u heffeithiau ar blant
  • Archwilio plentyndod “Da”.
  • Cynyddu gwybodaeth am Wytnwch
  • Meddu ar sgiliau a hyder i feithrin gwytnwch gyda phlant a phobl ifanc

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â diddordeb mewn meithrin gwytnwch a deall ACE’s.

Os ydych yn aelod o Plant yng Nghymru, cysylltwch â training@childreninwales.org.uk i dderbyn eich cod gostyngiad o 10%.

Nid yw ExChange Wales yn gyfrifol am ddolenni neu adnoddau allanol.