Dydd Iau Medi 12, 2024
9:30am – 4pm
Ar-lein

Croeso i’r digwyddiad ar ddatblygiad pobl ifanc yn eu harddegau a sut i ymgysylltu â nhw a’u hymennydd!

Dyddiad: Dydd Iau Medi 12, 2024

Amser: 09:30

Lleoliad: Ar-lein

Mae’r cwrs hwn yn edrych ar yr arddegau yn nhermau datblygiad corfforol, seicolegol, emosiynol a chymdeithasol. Gall edrych ar y materion sydd dan sylw a ffyrdd o’u deall helpu i ymgysylltu â phobl ifanc a’u cefnogi’n effeithiol.

Nodau:

  • Dealltwriaeth o gyfnodau datblygiad – deallusol a sosio-emosiynol
  • Cyfathrebu – sut mae siarad ag arddegwyr
  • Adeiladu perthnasoedd – meithrin ymddiriedaeth, dysgu cyd-drafod, pennu ffiniau
  • Deall ffactorau straen – pwysau cyfoedion, rhyw a pherthnasoedd, camddefnyddio sylweddau, bwlio, camdriniaeth a thrawma
  • Sut mae hybu annibyniaeth a gwydnwch

Pwy ddylai fod yn bresennol?

Ymarferwyr sy’n gweithio gydag arddegwyr ac sydd eisiau deall sut mae eu hymennydd yn gweithio a sut mae hynny’n dod i’r amlwg yn eu hymddygiad.

Peidiwch â cholli’r cyfle gwerthfawr hwn i ddysgu a thyfu yn eich rhyngweithio â phobl ifanc yn eu harddegau. Cofrestrwch nawr!

Os ydych yn aelod o Plant yng Nghymru, cysylltwch â training@childreninwales.org.uk i dderbyn eich cod gostyngiad o 10%.

Nid yw ExChange Wales yn gyfrifol am ddolenni neu adnoddau allanol.