Barod i fynychu digwyddiad? Gwiriwch ein rhestr paratoi at ddigwyddiadau

Dyma rhai ffyrdd o baratoi at ddigwyddiad ExChange Wales. Ymchwiliwch y lleoliad ac amseroedd teithio er mwyn cyrraedd yn gynnar. Edrychwch ar amserlen neu fanylion y darlithydd neu arweinydd y gweithdy i ymgyfarwyddo â’u harbenigedd ac i baratoi cwestiynau. Yn ystod y digwyddiad, cysylltwch ag ymchwilwyr, staff neu ymarferwyr eraill i ehangu meysydd sydd o ddiddordeb i chi. 

Dewch a deunyddiau – beiro a phapur neu declyn ar gyfer cymryd nodiadau. Peidiwch ag anghofio gwneud gwaith ar ôl y gweithdy: efallai y bydd cyflwyniadau, Twitter, neu ddeunyddiau pellach ar gael. Ac yn olaf: edrychwch allan am ein digwyddiad nesaf!

Tra’ch bod yma, archwiliwch adnoddau ExChange Wales:

  • Dilynwch ni ar Twitter i dderbyn cyhoeddiadau byw cyfoes o’n digwyddiadau: Twitter.com/exchangewales
  • Gwelwch ein harchif digwyddiadau
  • Ewch i’n hadran adnoddau i wylio fideos, gwrando ar bodlediadau, a mwy
  • Darganfyddwch fwy am ein hacademyddion, ymchwilwyr, ac aelodau tîm yn CASCADE
  • Archwiliwch feysydd arbenigol ein gwefan: Newyddion, Addysg & Gofal, Teulu & Chymuned
  • Ymgyfarwyddo â’n polisi canslo digwyddiadau:
  • Mae digwyddiadau ExChange yn rhad ac am ddim ac yn cael eu hariannu gan Exchange Wales. Er mwyn i ni allu cynnal digwyddiadau a’u gwneud yn gynaliadwy, rydym yn codi ffi diffyg presenoldeb o £30. Rydym yn gofyn am rybudd deuddydd cyn canslo. Os na chawn ein hysbysu o’ch gohiriad o fewn yr amser yma byddwn yn codi tâl o £30 ar eich cyflogwr.
  • Dysgu pellach: ymwelwch â’r Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE) i weld prosiectau ymchwil cyfredol a chwblhawyd, newyddion cyfredol, a diweddariadau Canolfan What Works

Yn olaf, os yw ein digwyddiad yn ddiddorol neu’n ddefnyddiol i chi, ystyriwch ail-drydar ni @exchangewales. Edrychwn ymlaen at eich croesawu.

Book events through the ExChange Wales Eventbrite.

Pandemig y Coronafeirws (COVID-19): Pobl Ifanc sy’n gadael gofal ac ymarferwyr yn rhannu eu profiadau a gwersi ar gyfer y dyfodol

Mae pandemig COVID-19 a’r cyfnod clo dilynol wedi cael effaith fawr yn fyd-eang, gydag effaith anghymesur ar y bobl dlotaf a mwyaf bregus yn y gymdeithas. Cynlluniwyd yr astudiaeth ymchwil i gyfrannu at y sail o dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg yn edrych ar gyflenwi a derbyn gofal cymdeithasol yn ystod y cyfnod. 

Cyllidwyd yr astudiaeth ymchwil gan Voices from Care Cymru a CASCADE: y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant. Roedd yn cynnig llwyfan i farn 21 o bobl ifanc oedd â phrofiad o ofal a gyflwynodd adroddiadau byw a manwl o’u profiadau yn y cyfnod clo. Roedd cynnwys arolwg proffesiynol gyda 23 o gyfranogwyr yn golygu bod modd rhoi ystyriaeth i fentrau lleol, oedd yn gefndir gwerthfawr ar gyfer dadansoddi adroddiadau’r bobl ifanc. Mae’r astudiaeth felly’n cynnwys gwersi pwysig i lunwyr polisïau, rheolwyr gofal cymdeithasol ac ymarferwyr rheng flaen sy’n gweithio gyda phobl ifanc â phrofiad o ofal a grwpiau bregus eraill. 

Yn galonogol, datgelodd yr astudiaeth ymdrechion cadarnhaol i addasu i’r amodau gwaith digynsail. Roedd yn werth nodi bod y gweithwyr proffesiynol a ymatebodd i’n harolwg yn gadarnhaol am y cymorth roedden nhw wedi’i roi i’r rheini oedd yn gadael gofal. Roedd ymdrechion i gynnal cyfathrebu gyda phobl ifanc, brwydro unigedd, ynysu a diflastod, yn ogystal â sicrhau mynediad at adnoddau yn arwydd o arfer da. Fodd bynnag, nodwyd bod yr ymdrechion i ymateb i anghenion pobl ifanc yn cael eu cyfyngu gan ddiffyg cyllid ychwanegol. 

Weithiau roedd safbwyntiau pobl ifanc yn cyferbynnu’n llwyr â safbwyntiau gweithwyr proffesiynol a cheir pryderon o hyd o ran cydraddoldeb y gefnogaeth o fewn ac ar draws ardaloedd, a’r cydweddu rhwng anghenion cymorth a’r ddarpariaeth sydd ar gael. Nid oedd ein canfyddiadau’n awgrymu yr ymgynghorwyd â phobl ifanc a’u cynnwys mewn penderfyniadau am ffyrdd newydd o weithio, ac roedd y pwyslais i’w weld ar anghenion argyfwng brys a thymor byr, yn hytrach na chynllunio trawsnewid neu ymagwedd yn seiliedig ar hawliau. Pryder penodol oedd adroddiadau gan bobl ifanc oedd yn bryderus am ddarpariaethau sylfaenol, byw mewn llety amhriodol a cheisio delio â diffyg cymorth ar gyfer iechyd meddwl. 

Ond er gwaethaf yr ystyriaethau hyn, roedd pobl ifanc yn gwerthfawrogi cyswllt gan weithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal proffesiynol gan nodi bod hyn yn hanfodol yn ystod pandemig COVID-19, fel y dangosir yn y gerdd hon gan un o’r bobl ifanc â phrofiad o ofal oedd yn rhan o’r astudiaeth: 

Times have changed, time is passing, 
But our need for you to care is not lapsing, 
We may whinge and shout and say we don’t want, 
But we do, we really want you to. 
We are isolated, changed and really not sure, 
We need that face, the one we say we dislike 
we need those texts that we never reply to, 
We need the language that you share, they hey, 
`how are you doing, I am still here’, 
This is the real language that cares, the language we need, 
The language which shows us not everything has changed, 
The language that comforts us, like a weird aunt would send 
Which would make us cringe, and smile, 
A smile which means something hasn’t changed 
-the language you use to show us you care. 

Hefyd gallwch wylio ffilm Care Leavers and Coronavirus am y canfyddiadau allweddol: 

Byddem ni’n falch i glywed gennych gydag unrhyw adborth, sylwadau neu awgrymiadau: 

Louise Roberts, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd RobertsL18@caerdydd.ac.uk @DrLouiseRoberts 

Cyfeirnodau 

Roberts, L., Rees, A., Bayfield, H., Corliss, C., Diaz, C., Mannay, D. and Vaughan, R. 2020. Young people leaving care, practitioners, and the coronavirus (COVID 19) pandemic: experiences, support, and lessons for the future. Cardiff: Cardiff University.

ACE: Adeiladu gwytnwch yn wyneb profiadau niweidiol yn ystod plentyndod

Cwrs hanner ddydd Mae’r adroddiad yn 2015 gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Astudiaeth Cymru ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) yn datgan bod “Corff cynyddol o dystiolaeth bod ein profiadau yn ystod plentyndod yn gallu effeithio ar iechyd ar hyd cwrs bywyd. Mae plant sy’n profi plentyndod ansawdd isel, sy’n llawn straen yn fwy tebygol o fabwysiadu ymddygiad sy’n niweidio iechyd yn ystod y glasoed, a gall hynny yn ei dro arwain at salwch meddwl ac afiechydon fel canser, clefyd y galon a diabetes yn ddiweddarach mewn bywyd.”
“Nid dim ond yng nghyswllt iechyd mae Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn destun pryder. Mae profi ACEs yn golygu bod unigolion yn fwy tebygol o gyflawni’n wael yn yr ysgol, yn fwy tebygol o ymwneud â throseddu, ac yn y pen draw yn llai tebygol o fod yn aelod cynhyrchiol o’r gymdeithas”.

The social worker in community mental health teams: Findings from a national survey

Gan Michele Abendstem, Mark Wilberforce, Jane Hughes, Andelijia Arandelovic, Saqba Batool, Jennifer Boland, Rosa Pitts a David Challis.  

Journal of Social Work

Ysgrifennwyd yr adolygiad gan Dr David Wilkins

Pa gwestiwn sydd dan sylw yn yr astudiaeth?

Mae gweithwyr cymdeithasol wedi bod yn rhan o dimau iechyd meddwl cymunedol (TIMCau) ers amser maith, ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mewn rhai ardaloedd, mae cyfansoddiad y timau hyn wedi bod yn newid. Archwiliodd yr astudiaeth hon sefyllfa a rôl bresennol gweithwyr cymdeithasol o fewn TIMCau Lloegr, a sut y gallai hyn fod yn newid.  

Sut yr astudion nhw’r pwnc?

Yn 2018, cynhaliodd yr awduron arolwg cenedlaethol o reolwyr TIMCau yn Lloegr. Fe wnaethant hyn trwy gael rhestr o ymddiriedolaethau iechyd meddwl y GIG yn Lloegr (n = 54) a dod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer eu TIMCau. At ei gilydd, daethant o hyd i 421 o dimau o 50 o’r Ymddiriedolaethau (nid oeddent yn gallu cysylltu â dau, a thynnodd dau yn ôl). Dosbarthwyd arolygon i’r rheolwyr tîm. Cwblhawyd cyfanswm o 188 o arolygon (cyfradd ymateb o 44%), a oedd yn rhychwantu pob un o’r 50 Ymddiriedolaeth a naw rhanbarth yn Lloegr.  

Beth oedd eu canfyddiadau?

Maint cyfartalog TIMC oedd ychydig dros 25 o bobl. Roedd pob un ohonynt yn cynnwys rheolwr tîm, nyrsys ac o leiaf un seiciatrydd ymgynghorol. Roedd pedair rhan o bump hefyd yn cynnwys gweithiwr cymdeithasol, ac roedd gan bron 90% therapydd galwedigaethol. Dywedodd mwy na hanner y rheolwyr tîm fod gweithwyr cymdeithasol yn gwneud cyfraniad ‘da’ neu ‘dda iawn’ at y tîm. Disgrifiodd y mwyafrif o’r rhai a oedd yn fwy negyddol eu bod wedi colli gweithwyr cymdeithasol o’u timau yn ystod y 12 mis blaenorol. Po fwyaf o weithwyr cymdeithasol oedd yn y tîm, y mwyaf tebygol oedd hi y byddai eu cyfraniad yn cael ei raddio’n gadarnhaol. Roedd gweithwyr cymdeithasol yn gweithredu fel cydlynwyr gofal, neu’n gydlynwyr DRhG (Dull Rhaglen Gofal) gwell, ac yn y mwyafrif o dimau cynhaliodd asesiadau cychwynnol. Mewn nifer bach iawn o dimau, mae gweithwyr cymdeithasol yn rhagnodi neu’n rhoi meddyginiaeth. Gweithwyr cymdeithasol hefyd oedd y grŵp proffesiynol mwyaf a oedd yn ymwneud â gwneud penderfyniadau cyllido a gweithredu fel Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy.  

Disgrifiodd mwy na hanner y rheolwyr newidiadau mawr i’w timau yn ystod y 12 mis blaenorol. Roedd y rhain yn cynnwys ailstrwythuro, gweithio mwy integredig rhwng gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol, colli staff, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, a rolau newidiol. Lle collwyd gweithwyr cymdeithasol o’r tîm, roedd rheolwyr yn aml yn disgrifio colli profiad a gwybodaeth, llwythi gwaith cynyddol ar gyfer staff eraill, ac effaith negyddol ar bobl sy’n defnyddio gwasanaethau.  

Beth yw’r goblygiadau? 

Mae’r canfyddiadau hyn yn tynnu sylw at y rôl bwysig sydd gan weithwyr cymdeithasol o fewn llawer o TIMCau, ond hefyd eu rolau newidiol ac, mewn rhai achosion, eu habsenoldeb. Mynegodd rheolwyr tîm bryderon ynghylch colli gweithwyr cymdeithasol o’u timau, ac yn benodol sut y gallai hyn gyfyngu ar ymdrechion i integreiddio darpariaeth gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol neu wyrdroi’r rhain.  


Ysgrifennwyd yr adolygiad gan

Llun o Dr David Wilkins, awdur yr adolygiad erthygl yma.

Dr David Wilkins

Sut mae lles plant mewn gofal maeth yng Nghymru’n cymharu â lles plant eraill yng Nghymru?

Mae lles i fod wrth wraidd gwasanaethau i blant ac oedolion yng Nghymru – ac eto prin yw’r ymchwil ar les plant mewn gofal. Pa mor hapus a bodlon yw plant mewn gofal yng Nghymru – yn enwedig o gymharu â phlant eraill?

Mae’r seminar hon yn adrodd ar ymchwil sy’n cymharu plant mewn gofal â grŵp llawer mwy o blant eraill yng Nghymru i ateb cwestiynau ynghylch pa mor fodlon ydyn nhw ar bywyd a pha ffactorau sy’n dylanwadu ar a ydyn nhw’n hapus neu beidio. Mae’n cymharu lles 22 o blant mewn gofal maeth rhwng 10 a 13 oed â sampl genedlaethol fawr o 2627 o blant eraill.

Dyma, hyd y gwyddom, yr ymchwil gyntaf sy’n gallu gwneud cymhariaeth o’r fath, ac mae’r sampl fawr yn caniatáu inni ymchwilio i ofal ond ar ben hynny mae modd edrych ar effaith ffactorau eraill megis amddifadedd. Roedd y canfyddiadau yn ddiddorol ac yn annisgwyl. Bydd y seminar hon yn cyflwyno’r canfyddiadau cychwynnol ac yna’n agor trafodaeth ynghylch sut y gallen ni helpu i wella lles plant mewn gofal a phwysigrwydd ystyried lles goddrychol ochr yn ochr â mesurau mwy “gwrthrychol” megis cyflawniad addysgol.

Cyflwynwyr: Dr Jen Hampton (WISERD), yr Athro Colette McAuley (CASCADE) Yr Athro Donald Forrester (Cyfarwyddwr CASCADE) Prifysgol Caerdydd 

Dyddiad a Amser: 15fed Medi, 12y.p

Ydy gofal awdurdod lleol yn gwneud gwahaniaeth i fywyd plant sy’n agored i niwed? Dadansoddiadau hydredol o garfan electronig ôl-weithredol

Nod yr ymchwil arfaethedig yw ymchwilio, dros gyfnod o amser, i ddeilliannau addysg ac iechyd plant sy’n derbyn gofal (CLA) gan yr  awdurdod lleol (h.y. dan ofal). Mae astudiaethau presennol sy’n defnyddio un pwynt yn unig mewn amser wedi dangos nad yw deilliannau addysg ac iechyd plant sy’n derbyn gofal cystal o gymharu â’r boblogaeth gyffredinol. Mae profiadau cyn derbyn gofal, megis cam-drin corfforol, afiechyd iechyd meddwl rhieni, a rhieni sy’n camddefnyddio alcohol yn rhesymau cyffredin am ddod yn blant sy’n derbyn gofal. Mae’r profiadau hyn hefyd yn rhagweld deilliannau iechyd, addysg a chymdeithasol gwaeth ymhlith pobl ifanc nad ydyn nhw’n derbyn gofal. Am y rhesymau hyn, mae’n anodd deall a yw deilliannau iechyd ac addysgol gwaeth ymhlith plant sy’n derbyn gofal yn digwydd o ganlyniad i wahaniaethau o ran profiadau cyn derbyn gofal, neu oherwydd y gofal ei hun. 

Am y tro cyntaf, cysylltodd yr ymchwil hon set ddata Cymru gyfan ar addysg ac iechyd â data sy’n cael ei gasglu fel mater o drefn ar gymorth i bobl ifanc gan y gwasanaethau cymdeithasol. Mae’r ymchwil yn ymchwilio i dri amcan. Yn gyntaf, mae’n mynd i’r afael â’r diffyg astudiaethau ar raddfa fawr yn y DU sy’n ymchwilio’n ystadegol i rôl statws plant sy’n derbyn gofal wrth ragweld deilliannau addysgol ac iechyd dros gyfnod o amser. Yn ail, bydd yn lleihau’r ansicrwydd ynghylch i ba raddau y mae’r deilliannau gwael ymhlith plant sy’n derbyn gofal yn digwydd oherwydd profiadau cyn derbyn gofal neu oherwydd profiadau o fod mewn gofal. Gwneir hyn drwy gymharu plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n derbyn cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol ond nad ydyn nhw’n blant sy’n derbyn gofal (Plant Mewn Angen, ond nid yn Blant sy’n Derbyn Gofal – NLA). Mae’n debygol y bydd gwahaniaethau rhwng y ddau grŵp hyn sy’n rhagweld pam mae un grŵp yn dod yn blant sy’n derbyn gofal a’r llall ddim, ond mae’r NLA yn debygol o fod yn debycach i blant sy’n derbyn gofal na phlant nad yw’r gwasanaethau yn gwybod amdanyn nhw. Er mwyn ystyried rhai gwahaniaethau pellach rhwng grwpiau, byddwn ni’n addasu hyn yn achos cam-drin corfforol, salwch iechyd meddwl rhieni, rhieni sy’n camddefnyddio alcohol a thrais domestig. Yn drydydd, mae statws plant sy’n derbyn gofal yn aml yn seiliedig ar y rhagdybiaeth y bydd tynnu pobl ifanc o adfyd yn eu symud tuag at lwybrau bywyd gwell. Yr astudiaeth hon fydd y gyntaf i ymchwilio dros gyfnod o amser i rôl gofal wrth leihau effeithiau profiadau cyn-ofal ar ddeilliannau addysg a gofal iechyd. 

Mae’r ymchwil wedi’i ariannu gan Cyngor Economic and Social Research (ERSC)

Cyflwynydd: Dr Sara Long, DECIPHer, Prifysgol Caerdydd.

Dyddiad a Amser: 14eg Medi, 11y.b

Rhianta corfforaethol mewn pandemig: Cefnogaeth i bobl sy’n gadael gofal yng Nghymru

Rhianta corfforaethol mewn pandemig: Ystyried cyflenwi a derbyn cymorth i’r rheini sy’n gadael gofal yng Nghymru yn ystod Covid-19

Yn ystod COVID-19, bu’r rheini oedd yn gadael gofal yn edrych at eu rhieni corfforaethol am gymorth. Yn unol â hynny, roedd yr astudiaeth dull cymysg hon yn edrych ar brofiadau’r rheini oedd yn gadael gofal yn ystod y pandemig. Roedd yn cynnwys arolwg o weithwyr proffesiynol mewn Awdurdodau Lleol yng Nghymru (n=22) a chyfweliadau gyda phobl ifanc 17-24 oed â phrofiad o ofal (n=17). Yn eu cyfweliadau, nododd rhai pobl ifanc eu bod yn derbyn cefnogaeth ymarferol ac emosiynol.

Gwnaeth hi’n siŵr fod gen i ddigon o fwyd a stwff, helpodd fi’n ariannol, yn emosiynol ac yn amlwg pan oeddwn i’n symud allan a stwff, roeddwn yn teimlo fel lladd fy hun, ac fel helpodd fi bryd hynny hefyd. Chi’n gwybod, roedd hi’n gwneud yn siŵr fy mod i’n iawn bob dydd. Daeth i fy ngweld i bron bob dydd. (Bethan)

Mae fy ngweithiwr cymdeithasol yn fy ffonio i’n rheolaidd… galwodd hi fi ar Facetime yr wythnos ddiwethaf a dweud y gwir. Mae’n wych… mae’n ei gadw’n rheolaidd achos mae’n gwybod mod i’n mynd yn isel yn rhwydd… Felly ydi, mae’n cysylltu’n rheolaidd. (Jess)

Ond i bobl ifanc eraill y canfyddiad oedd nad oedd rhianta corfforaethol ar gael.

Allwn i fod wedi marw, a fydden nhw ddim yn gwybod. Dim ond ddwywaith wnaethon nhw gysylltu: allwn i fod wedi lladd fy hun. (Mary)

Dwi wedi cael neges destun neu ddwy ond dyna i gyd, dwi ddim wedi siarad â hi, jest neges destun ac ebost… Byddai’n braf pe baen nhw’n cysylltu i weld ydw i’n fyw a bod yn onest, chi’n gwybod? (Bev)

Dwi wedi trio ffonio pawb yn y swyddfa, ond dwi ddim yn gallu cael gafael ar fy ngweithiwr cymdeithasol hyd heddiw.  Dwi ddim wedi siarad ag e ers 5, 6 mis, fy ngweithiwr cymdeithasol, rhywbeth fel’na. (Paul)

Roedd pandemig Covid-19 yn cynnig lens unigryw ar gyfer ystyried rôl y wladwriaeth fel rhiant. Er bod tystiolaeth o arfer da yng Nghymru yn galonogol, gyda rhai pobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth ymarferol ac emosiynol, mae’n bryderus iawn fod pobl ifanc eraill yn parhau mewn sefyllfaoedd peryglus, yn teimlo eu bod wedi’u hanghofio a’u hesgeuluso gan eu rhieni corfforaethol. Mae canfyddiadau’r astudiaeth yn dangos tuedd rhianta corfforaethol i gynnig amddiffynfa yn erbyn gofidiau’r pandemig, ond hefyd i ddwysau anawsterau pobl ifanc drwy fod yn anweithredol, peidio ag ymateb a/neu beidio â bod yn ofalgar.

I gael rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth gweler – Roberts, L., Rees, A., Mannay, D., Bayfield, H., Corliss, C., Diaz, C. a Vaughan, R. 2021. Rhianta corfforaethol mewn pandemig: Considering the delivery and receipt of support to care leavers in Wales during Covid-19. Children and Youth Services Review 

Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd yn y blogiau hyn sy’n gysylltiedig â’r pwnc ar Teulu a Chymuned.

Yng nghysgod pandemig: Profiad pobl ifanc y stryd yn Harare yn ystod COVID-19
Pandemig Coronavirus: Profiadau a gwersi ar gyfer y dyfodol

Gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc

Fe wnaethon ni weithio i ddatblygu fideo gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc. Mae’r grŵp y buom yn gweithio gyda yn cwrdd yn wythnosol ac yn cynnig cyfle i bobl ifanc a phrofiad o ofal ymweld â’r brifysgol a chymryd rhan mewn gweithgareddau sydd â’r nod o godi dyheadau addysgol a’u hymwybyddiaeth o fywyd prifysgol. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys gweithdai gwyddoniaeth, hanes a throseddeg, teithiau prifysgol, ymweliadau un i un, profiadau preswyl a gweithio gyda phobl ifanc a myfyrwyr prifysgol sydd a profiad o ofal.

Ar draws dwy sesiwn ym mis Ionawr a mis Chwefror 2019 buom yn gweithio gyda’r grŵp i gynnig negeseuon ynghylch addysg i’w rhannu mewn fideo i bobl ifanc eraill. Dechreuon ni trwy daflu syniadau ar yr hyn yr hoffent ei rannu â’u cyfoedion. Pa bethau sy’n eu helpu ym myd addysg? Beth sy’n gwneud gwahaniaeth? Ac yn olaf, beth sy’n eu hysbrydoli? Gan benderfynu ar eu prif negeseuon, yna bu’n rhaid iddynt weithio ar sgriptio a chreu elfennau gweledol ar gyfer y fideo. Fe ddefnyddion ni fyrddau stori i geisio llunio syniadau’r grŵp ac yna mynd yn greadigol gyda lluniadu a hyd yn oed defnyddio ffeltiau.

Defnyddiwyd y delweddau gwreiddiol a wnaed gan y grŵp fel sail i’r animeiddiad fideo isod, gan ddod â’r negeseuon yr oedd y bobl ifanc eisiau eu rhannu yn fyw.

Hoffem ddiolch i’r bobl ifanc ysbrydoledig am rannu eu straeon a’u holl waith caled ar y ffilm. Hoffem hefyd gydnabod yr holl staff cymorth sydd wedi bod yn gweithio gyda’r grŵp, yn enwedig Helen Davies o Reaching Wider ym Mhrifysgol Abertawe. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau’r fideo.

Adnodd diogelu newydd ar gyfer gweithio gyda phlant a phobl ifanc

Mae www.checkyourthinking.org/, a ddatblygwyd o ymchwil Prifysgol Caerdydd, yn dwyn ynghyd adnoddau a deunyddiau a grëwyd o waith ymchwil a phartneriaeth gyda phobl ifanc, yn ogystal â gofalwyr maeth, a gweithwyr proffesiynol perthynol a gofal cymdeithasol. Mae’n adeiladu ar ganlyniadau ymchwil dan arweiniad Dr Sophie Hallett yn adroddiad ‘Keeping Safe?’, a ddefnyddiodd gofnodion achos i ddilyn carfan o 205 o blant yr oedd y gwasanaethau cymdeithasol mewn un awdurdod lleol yng Nghymru’n eu helpu, ochr yn ochr â chyfraniad pobl ifanc, gweithwyr cymdeithasol, gofalwyr maeth a gweithwyr preswyl.

 Mae’r adnoddau i’w defnyddio gan bawb sy’n gweithio gyda phobl ifanc ac yn gofalu amdanynt. Cynlluniwyd iddynt fod yn adnoddau myfyriol i helpu pobl i ‘ystyried eu ffordd o feddwl’ am faterion allweddol sy’n ymwneud â sicrhau nad yw pobl yn camfanteisio ar bobl ifanc, yn gwneud niwed iddynt nac yn eu cam-drin. Gall unigolion eu defnyddio i’w helpu wrth eu gwaith, drwy roi’r cyfle iddynt ystyried eu dealltwriaeth a’u harferion eu hunain. Gellir hefyd eu defnyddio fel ffordd o hwyluso trafodaeth a rhannu barn o fewn ac ar draws timau.  Bydd y wefan, a lansiwyd ar 1 Gorffennaf, yn dangos ffilm newydd wedi’i hanimeiddio am y tro cyntaf a ddatblygwyd mewn partneriaeth â phobl ifanc o Voices from Care, ac mae’n ffordd o roi gwybod i bobl ifanc eu bod wedi cael eu clywed, bod eu lleisiau wedi cyfrannu at bolisïau newydd a bod cefnogaeth ar gael. Comisiynwyd y gwaith hwn gan Lywodraeth Cymru. Cafodd yr ymchwil wreiddiol ei chyllido gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Choice, control and person-centredness in day centres for older people

Gan Katharine Orellana, Jill Manthorpe ac Anthea Tinker

Journal of Social Work

Ysgrifennwyd yr adolygiad gan Dr David Wilkins

Pa gwestiwn sydd dan sylw yn yr astudiaeth?

Mae’r papur hwn yn honni y tybir yn aml bod canolfannau dydd i bobl hŷn wedi dyddio neu’n rhy ddrud, yn enwedig o ystyried sylw Deddf Gofal 2014 ar ddewis, rheolaeth a chanolbwyntio ar y person. Mae’r awduron yn archwilio beth yw barn gweithwyr proffesiynol a phobl hŷn am y gwasanaethau hyn, ac i ba raddau y gellir deddfu cymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn mewn canolfannau dydd. 

Sut gwnaethant astudio hyn?

Roedd yr astudiaeth yn para am dair blynedd, gyda ffocws ar bedair canolfan ddydd gyffredinol. Dewiswyd y canolfannau yn bwrpasol, fel eu bod yn rhychwantu’r awdurdod lleol, y gymdeithas dai a’r sectorau gwirfoddol/dielw. Roedd dwy o’r canolfannau mewn ardaloedd trefol iawn, un mewn tref fach ac un mewn ardal wledig. 

Cynhaliodd prif awdur y papur ymweliadau wythnosol â’r canolfannau rhwng mis Medi 2015 a mis Rhagfyr 2016. Yn ystod yr amser hwn, cynhaliwyd cyfweliadau â 13 o staff awdurdodau lleol, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, comisiynwyr a’r rhai sy’n atgyfeirio, 23 o bobl hŷn, 10 o ofalwyr teulu a 23 o staff canolfannau dydd, gan gynnwys rheolwyr, gwirfoddolwyr a gofalwyr. 

Beth oedd eu canfyddiadau?

Mae’r papur yn cyflwyno ei ganfyddiadau ar draws tair thema – barn gweithwyr proffesiynol ar ganolfannau dydd, deddfu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, a barn pobl hŷn ar ganolfannau dydd. 

– Barn gweithwyr proffesiynol

Roedd ymarferwyr o’r farn bod canolfannau dydd yn berthnasol i’w gwaith, ar y cyfan yn fwy na chomisiynwyr awdurdodau lleol. Nododd ymarferwyr bwysigrwydd darparu ystod o wasanaethau yn yr ardal, gan gynnwys canolfannau dydd, fel y gall pobl hŷn wneud dewisiadau ystyrlon am yr hyn maen nhw ei eisiau. Fodd bynnag, roedd rhai comisiynwyr o’r farn y byddai’r dewisiadau o fewn canolfannau dydd eu hunain yn cael eu cyfyngu gan argaeledd gweithgareddau, opsiynau prydau bwyd a rotas staff amhersonol. 

– Deddfu dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

Soniodd ymarferwyr am bwysigrwydd paru pobl â’r ganolfan iawn ar eu cyfer, a oedd yn golygu gwybod am y ganolfan, a’i gweithgareddau, yn ogystal â’r unigolyn. Nododd rheolwyr canolfannau dydd hefyd bwysigrwydd defnyddio dull wedi’i bersonoli. Soniodd y bobl hŷn sy’n mynychu canolfannau dydd am allu dewis ble i eistedd, pa ddiodydd a phrydau bwyd i’w cael, a pha weithgareddau yr oeddent am eu gwneud. Ar y llaw arall, nid oedd rhai pobl hŷn wedi cael cynnig canolfannau neu wasanaethau eraill, ac ni  ddarperir ar gyfer anghenion a dewisiadau unigol bob amser. Weithiau, y dewis oedd ar gael oedd naill ai gwneud gweithgaredd neu beidio â gwneud gweithgaredd, yn hytrach na dewis rhwng gwahanol weithgareddau; ac mewn un ganolfan, nid oedd dewis prydau bwyd. Teimlai rhai comisiynwyr ac ymarferwyr fod y defnydd o ganolfannau dydd yn cael ei yrru’n bennaf gan anghenion. 

– Barn pobl hŷn

Dywedodd pobl hŷn eu bod yn gwerthfawrogi natur gymunedol y canolfannau dydd, a pharhad perthnasoedd â staff. Fodd bynnag, dywedodd rhai pobl hŷn eu bod yn ei chael yn anodd byw gyda thrigolion eraill, yn enwedig os oeddent yn ymddwyn mewn modd annymunol neu annifyr. Weithiau roedd staff yn rhy brysur wrth helpu pobl ag anghenion corfforol neu feddygol i drefnu a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol.  


Ysgrifennwyd yr adolygiad gan 

Llun o'r awdur yr adolygiad erthygl, Dr David Wilkins

Dr David Wilkins

‘Padlet’ Gofal Cymdeithasol Cymru o Adnoddau Lles

Yn rhan o Gyfres 2021 ExChange Wales o Gynadleddau Lles, mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi creu ‘padlet’ gwych o adnoddau lles ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol.  Gellir dod o hyd iddo ar-lein, ac mae’n cynnwys dolenni i:

  • Llinellau cymorth
  • Gwefan Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Grwpiau cefnogi cymheiriaid
  • Care First
  • Sesiynau lles byr
  • Apiau lles am ddim

Cliciwch ar y dolenni isod i fynd yn uniongyrchol i’r padlet:

Fersiwn Saesneg

Fersiwn Gymraeg

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gofal Cymdeithasol Cymru.