Dyma rhai ffyrdd o baratoi at ddigwyddiad ExChange Wales. Ymchwiliwch y lleoliad ac amseroedd teithio er mwyn cyrraedd yn gynnar. Edrychwch ar amserlen neu fanylion y darlithydd neu arweinydd y gweithdy i ymgyfarwyddo â’u harbenigedd ac i baratoi cwestiynau. Yn ystod y digwyddiad, cysylltwch ag ymchwilwyr, staff neu ymarferwyr eraill i ehangu meysydd sydd o ddiddordeb i chi.
Dewch a deunyddiau – beiro a phapur neu declyn ar gyfer cymryd nodiadau. Peidiwch ag anghofio gwneud gwaith ar ôl y gweithdy: efallai y bydd cyflwyniadau, Twitter, neu ddeunyddiau pellach ar gael. Ac yn olaf: edrychwch allan am ein digwyddiad nesaf!
Tra’ch bod yma, archwiliwch adnoddau ExChange Wales:
- Dilynwch ni ar Twitter i dderbyn cyhoeddiadau byw cyfoes o’n digwyddiadau: Twitter.com/exchangewales
- Gwelwch ein harchif digwyddiadau
- Ewch i’n hadran adnoddau i wylio fideos, gwrando ar bodlediadau, a mwy
- Darganfyddwch fwy am ein hacademyddion, ymchwilwyr, ac aelodau tîm yn CASCADE
- Archwiliwch feysydd arbenigol ein gwefan: Newyddion, Addysg & Gofal, Teulu & Chymuned
- Ymgyfarwyddo â’n polisi canslo digwyddiadau:
- Mae digwyddiadau ExChange yn rhad ac am ddim ac yn cael eu hariannu gan Exchange Wales. Er mwyn i ni allu cynnal digwyddiadau a’u gwneud yn gynaliadwy, rydym yn codi ffi diffyg presenoldeb o £30. Rydym yn gofyn am rybudd deuddydd cyn canslo. Os na chawn ein hysbysu o’ch gohiriad o fewn yr amser yma byddwn yn codi tâl o £30 ar eich cyflogwr.
- Dysgu pellach: ymwelwch â’r Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE) i weld prosiectau ymchwil cyfredol a chwblhawyd, newyddion cyfredol, a diweddariadau Canolfan What Works
Yn olaf, os yw ein digwyddiad yn ddiddorol neu’n ddefnyddiol i chi, ystyriwch ail-drydar ni @exchangewales. Edrychwn ymlaen at eich croesawu.
Book events through the ExChange Wales Eventbrite.