ADRODDIAD YMCHWIL

Awdur: A Way Home Scotland.

Blwyddyn: 2019

Crynodeb:

Ym mis Mai 2019, cafodd Cynghrair A Way Home Scotland y dasg o greu Llwybr Atal Digartrefedd Ieuenctid ar gyfer ymadawyr gofal gan Grŵp Gweithredu Digartrefedd a Chysgu Garw Llywodraeth yr Alban (HARSAG), gyda’r nod o fynd i’r afael â’r ffaith bod ymadawyr gofal yn wynebu risg cryn dipyn yn uwch na’u cyfoedion o ddod yn ddigartref ym mywyd oedolion.

Mae’r Llwybr Atal Digartrefedd Ieuenctid newydd ‘Gwella Llwybrau Tai Ymadawyr Gofal’, yn nodi camau cyraeddadwy, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i atal pobl sy’n gadael gofal rhag cael eu heffeithio gan ddigartrefedd ar unrhyw adeg ar ôl gadael gofal. Fe’i datblygwyd gan weithgor amlasiantaeth y Coalition a grŵp llywio ieuenctid ‘Aff the Streets’, mewn partneriaeth â Celcis, ac fe’i llywir gan eu gwybodaeth gyfun o’r heriau sy’n wynebu pobl sy’n gadael gofal.