Cyflwyniad
Cafodd y gweithdy yma ei gyflwyno gan Dr Georgia Philip o’r Ganolfan ar gyfer Ymchwil i Blant a Theuluoedd (CRCF), wedi’w leoli ym mhrifysgol East Anglia (UEA). Esboniodd Georgia ei bod wedi derbyn hyfforddiant fel cymdeithasegwr ac mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar dadau, teuluoedd ac ymgysylltiad tadau. Gweithiodd ar ddau brosiect mawr am brofiadau tadau o amddiffyniad plant, ac o drafodaethau gofal rheolaidd. Amlygodd dau brosiect ymchwil ac adroddiadau wedi’w ariannu gan y Sylfaen Nuffield sydd yn benodol i’r gweithdy:
Briffio Ymchwil – Cyfri Tadau i Mewn: Deall ystyriaeth dynion o’r system amddiffyn plant gan CRCF yn UEA
‘Yn ein Herbyn’: Deall profiadau tadau o drafodaethau gofal rheolaidd. Gan UEA a Phrifysgol Lancaster
Croesawodd Georgia gynulleidfa amrywiol o ystod o gefndiroedd (statudol, trydydd sector a grwpiau ymgyrch) a gofynnodd am safbwyntiau gwahanol a phrofiadau i gael ei wrando ar a pharchu, yn paratoi’r sefyllfa ar gyfer gweithdy a thrafodaeth ddiddorol.
Gweithgaredd Grŵp 1: Pam ydy’r ymgysylltiad ac ymrwymiad o’r tadau yn waith cymdeithasol mor anodd?
Gofynnodd Georgia i’r cyfranogwyr weithio mewn grwpiau i feddwl am y broblem o safbwynt gweithiwr cymdeithasol neu safbwynt y tad. Yn enwedig, pam bod y cysylltiad gyda tadau dal i’w weld yn broblem o fewn gwaith cymdeithasol? Beth yw’r heriau wrth adeiladau perthnasau gyda dynion?
Cafodd yr heriau canlynol eu nodi:
  • Efallai’r arfer yw bod gan dadau rym yn y teulu, lle mae llawer o weithwyr cymdeithasol yn fenywod. 
  • Mae’n anoddach i weithwyr cymdeithasol gysylltu â’r tad os nad yw’n byw yn y cyfeiriad cartrefol. 
  • Tydi gweithwyr cymdeithasol ddim wastad yn gwybod pwy yw’r tad, ond wastad yn gwybod pwy yw’r fam.
  • Mae adnoddau ar gyfer teuluoedd a rhwydweithiau cymorth yn aml wedi canolbwyntio ar fenywod – grwpiau mam a babi, grwpiau chwarae, cymorth menywod, cymorth lles a.y.b.. 
  • Syniadau wedi selio ar rhyw a gofal – tydi pob tad ddim yn meddwl eu bod yn berthnasol iddynt neu nad ydynt yn atebol. Mae atebolrwydd yn aml yn broblem allweddol.
  • Mae trais domestig yn fater dadleuol ac yn aml wedi seilio ar rhyw.
  • Gall ambell dad deimlo bod y system ond yn canolbwyntio ar y fam. Mae hyn yn fwy anodd eto wrth gyrraedd y system llys
Model Deinameg o ymrwymiad tadau
Cyflwynodd Georgia model i ddangos bod y lefel a llwyddiant o ymrwymiad tadau yn dibynnu ar dair agwedd:
  • Amseru y cyswllt cyntaf gan weithiwr cymdeithasol
  • Goddefgarwch a hyblygrwydd y tad (gallu i reoli emosiynau a disgwyliadau)
  • Y cyfathrebiad parhaus rhwng y gweithiwr cymdeithasol a’r tad
Ar adegau, mae’r rhwystrau ffisegol a meddyliol o gynnwys y tad yn meddwl bod cyswllt weithiau yn cael ei adael cyn mynd i’r llys, sydd yna dim yn rhoi cyfle realistig i’r tad roi pethau yn ei le er mwyn bod yn ofalwr i’r plentyn. 
“Pan mae’r cysylltiad rhwng weithiwr cymdeithasol a tad yn gweithio’n dda, mae’n gallu arwain at adnabyddiaeth gydfuddiannol ac ymrwymiad gweithgar gan y tad, gyda chanlyniadau mwy positif.”
 “Pan mae cyfathrebu wedi bod yn oddefol ac yn anaml (e.e. mae’r tad ond yn derbyn y munudau o gyfarfod yn hytrach na cael ei ymrwymo yn actif) gall arwain at ddiffyg ymddiriaeth i’r ddwy blaid a’r gwaharddiad strategol o’r tad.”
Yn ddiddorol, mae gweithwyr cymdeithasol a tadau yn aml yn defnyddio’r un eirfa i ddisgrifio eu gilydd – ‘anodd i gysylltu’, ‘byth yn fy ngalw yn ôl’
Gweithgaredd grŵp 2: Taclo rhwystrau i newid​​
Mae yna rwystrau strwythurol a gweithdrefnol i gynhwysiant, o​nd dau fater allweddol sy’n cael eu codi yn rheolaidd yw mamau sy’n ‘porth gadw’ a tadau yn ‘optio allan’. Gofynnodd Georgia i’r cyfranogwyr yn eu grwpiau i drafod sut gall weithwyr cymdeithasol dorri y rhwystrau yma ac annog newid. Trafododd fy ngrŵp i y mater o weithwyr cymdeithasol yn torri rhwystrau gyda tadau fel yma:
  • Cydnabod bod tadau efallai yn strancio i gael y geiriau i esbonio eu teimladau a meddyliau
  • Dangos eich bod yn agored i wrando a deall. Mae’n cymryd dewrder i fod yn onest
  • Ailddatgan pwysigrwydd tad i blentyn
  • Dylai ymrwymiad tadau bod yn rhan o oruchwyliaeth
  • Sesiynau hyfforddiant i staff, yn enwedig rhai sydd wedi cymwys yn ddiweddar
  • Darganfod y balans rhwng dynesau wedi seilio ar gryfderau a gweithredu cadarn
Cafodd ei ailddatgan mai y cynharaf mae tad yn cael ei ymrwymo y gorau, ond mae angen sgiliau ar weithwyr cymdeithasol i wneud hyn. Mae’n gallu bod yn anodd herio neu gofyn cwestiynau anodd (tan fod amddiffyniad plentyn neu drafodaeth gofal yn gwneud hyn yn angenrheidiol). Mae’r rhiant dibreswyl yn aml ddim yn cael ei gwestiynu. Mae hyn yn rhwystr i gyfathrebu yn syth allai arwain at ragdybiaethau am ryw a’r lefel o gyswllt.
Offer ar gyfer meddwl a gwneud
Cyflwynodd Georgia dair syniad neu offer y dylai gweithwyr cymdeithasol gysidro yn ystod ymarfer: sensitifrwydd rhyw a chwestiynu beirniadol; astudio ‘asiantaeth’ dynion fel tadau; a bod yn wyliadwrus i borth gadw.
Materion rhyw
Anogodd Georgia’r gweithwyr cymdeithasol i feddwl yn feirniadol am rieni ar sail rhyw, gyda phrofiadau gwahanol, disgwyliadau, cosbau, gwobrau, cyfleoedd a rhwystrau. Mewn amddiffyniad plant gall rhagdybiaethau gael eu gwneud a’u gadael heb gwestiynu. Mae dynion yn sensitif i bryd mae gwahaniaeth rhyw yn arwain at annhegwch e.e. delio gyda honiadau, dim cael eu hymrwymo’r un faint a mamau, a’r pwyslais o gymorth sy’n cael ei roi i famau. Yn ogystal, mae achosion amddiffyniad plant yn un o’r achosion anaml pan mae’r rhiant sy’n gweithio at anfantais, oherwydd ni chawson eu gweld fel rhywun heb y gallu i ddarparu gofal amser cyflawn i’r plentyn. Dangoswyd hyn trwy fideo o dad a oedd yn credu mewn gweithio er lles y teulu, ond roedd hyn wedi gweithio yn ei erbyn yn ystod trafodaethau llys. Am y rhesymau yma, mae angen i ni feddwl yn feirniadol a chreu dynesiad mwy sensitif i rhyw mewn gwaith achos. Mae hyn yn allweddol i adeiladu gwell berthynas gyda tadau a chefnogi sgiliau rhieni dynion. (Cyfri Tadau i Mewn – pennod 11)
Asiantaeth Tadau
Mae teimlad o ‘asiantaeth’ yn ymwneud a hyder a gallu y tad i weithredu neu gwneud rhywbeth, sy’n effeithio sut mae tad yn dod ar draws ac yn ymgysylltu gyda gweithwyr cymdeithasol ac amddiffyniad plant. Esboniodd Georgia bod yr agweddau allweddol o asiantaeth yw: 
  • Dyfalbarhad – i barhau gyda phroses a’i holl heriau
  • Teimlad o hawl – y gred bod hi amdanyn nhw a’r plentyn a’r gallu i herio a chynnal rhan yn y broses
  • Ansawdd yr asiantaeth – y gallu i fod yn adlewyrchol a’r lefel o hyder a hunan-barch.
  • Perthynas gyda phlentyn – hanes y berthynas, lefel o gyswllt a gofal, y bond canfydded gyda’r plentyn
Rhannodd Georgia recordiad sain i ddangos y syniad yma, yn cynnwys dyn oedd wedi brwydro dros ei blant a dyfalbarhau dros bryderon am y fam tan dderbyniodd ofal o’i ferch. Yn y pen draw, roedd ei lwyddiant lawr i’w ddyfalbarhad, gwrthod tynnu nôl, a gallu i adlewyrchu’n feirniadol ar ei ddynesiad ei hun – yn ogystal â gweithiwr cymdeithasol a dyfalbarhaodd gydag ef er eu perthynas anodd. Gwers allweddol yw hyn ei fod yn aml yn anodd i weithiwr cymdeithasol gael y gwir oherwydd ‘mudslinging’ gan rieni.
Porth gadw
Y tro yma, yn ymwneud a phorth gadw trefniadol, rhaid i weithwyr cymdeithasol fod yn ymwybodol o adegau ‘agor porth’ a ‘chau porth’ wedi creu gan y broses amddiffyniad plentyn. Mae ffactorau agor porth, er enghraifft, yn gyfleoedd wedi creu i gysylltu gyda thadau yn ystod y cyfnodau cynnar. Ffactorau cau porth yw lle mae cyfleoedd gweithdrefnol yn cael ei golli, er enghraifft, i gynnwys tadau’n rhagweithiol a gwerthuso beth gall ei ymrwymiad fod.
“Gall adegau agor porth a chau porth gael effaith arwyddocaol ar gyfeiriad achos – weithiau mae’r rhain yn weithdrefnol ond weithiau mae nhw wedi cysylltu i agweddau neu dybiaethau am ddynion a sgiliau rhieni” 
Gweithgaredd grŵp 3: Beirniadaeth o asiantaeth tad ​​
Seiliwyd trafodaeth grŵp terfynol ar adroddiad wedi ysgrifennu gan dad am ei gyfranogiad yn amddiffyniad plentyn. Dangoswyd sut roedd y canlyniad wedi effeithio ei ddyfalbarhad a’i benderfyniad i gadw cyswllt gyda’i blant, ond hefyd ei gyrchiad i lety. Y pwynt troi olaf oedd pan gadarnhaodd llety addas, a oedd yn ei hwyluso i dderbyn gofal o un plentyn – y canlyniad yma roedd o wedi brwydro amdano o’r dechrau. Dangoswyd hefyd bod llety ei hun yn fater wedi seilio ar ryw. 
Casgliad
Dangosodd gweithdy Georgia’r cymhlethdod anhygoel o weithio gyda tadau yn amddiffyniad plant. Dangoswyd sut mae ymrwymiad llwyddiannus yn dibynnu ar sgiliau gweithwyr cymdeithasol i feddwl yn feirniadol a defnyddio ystod o offer yn sensitif ac mewn ffasiwn amserol, i roi’r cyfle gorau posib o newid i ymrwymiad positif i dadau. Mae hefyd yn dibynnu ar allu a hyder y tad i ddyfalbarhau gyda’r broses amddiffyniad plant, er gwaethaf yr heriau. Yn bwysig, rhaid i weithdrefnau trefniadol effeithiol, yn cynnwys hyfforddiant a goruchwyliaeth, sicrhau bod cyfleoedd ar gyfer ymrwymiad tadau yn cael ei ddarparu trwy gydol y broses.
Lawr lwythwch y llyfr gwaith defnyddiodd Dr Georgia Philip yn y gweithdy yma