Webinars
Pam cyfranogaeth?
Cyflwynodd Dr. Clive Diaz y webinar a gosododd yr amcanion:
- Ystyried beth rydym yn gysidro fel cyfranogaeth plant
- Adborth darganfyddiadau o ymchwil gyda phlant a phobl broffesiynol
- Trafod heriau a’r gallu i sicrhau cyfleoedd ar gyfer cyfranogaeth ystyrlon plant a phobl ifanc
- Ystyried sut medrwn ni wella ymarfer ynglŷn â chyfranogaeth plant
Cychwynnodd Clive gan cyflwyno’r ysgol o gyfranogaeth, yn wreiddiol gan Sherry Arnstein (1969) a wedi categoreiddio gan Roger Hart.
Hefyd, trafododd Clive y ‘wal ddringo’ o gyfranogaeth (Thomas 2002) sydd yn awtomiaeth, dewis, rheolaeth, gwybodaeth, cymorth a llais. Mae cyfranogaeth plant yn bwysig oherwydd mae’n gwella hyder, hunan-effeitholrwydd a hunanwerth (Dickens et al. 2015). Mae hefyd yn gydnabyddiaeth o’u hawliau sifil (Schofield & Thoburn 1996).
Cyfranogaeth plant mewn cyfarfodydd teulu a phroffesiynol: Darganfyddiadau Adroddiad Realaidd
Cyflwynodd Lorna Stabler a Dr Chloe O’Donnell o CASCADE ar y gwaith arolwg diweddar sy’n cael ei wneud ar gyfranogaeth plant mewn cyfarfodydd teulu a phroffesiynol.
Ystyriodd y cyflwyniad darganfyddiadau o arolwg realaidd o dystiolaeth, yn amlygu beth sydd angen digwydd cyn ac yn ystod cyfarfod, ac yna’r canlyniadau positif posib ar ôl cyfranogaeth ystyrlon. Hefyd ystyriodd yr arolwg yr amodau sydd angen bodoli cyn cyfarfod, yn ogystal â sut mae’n bosib corffori’r lleisiau o blant a phobl ifanc sydd ddim yn mynychu.
Prosiect Ymchwil
Trafododd Dr. Clive Diaz o CASCADE prosiect ymchwil oedd yn ymwneud Ac yn cyfweld a 10 person ifanc, 11 gweithiwr cymdeithasol, 8 swyddog adolygu annibynnol a 7 rheolwr hyn i gasglu eu barnau o gyfranogaeth plant.
Y prif rwystrau amlygodd yr ymchwil oedd, trosiant uchel o staff, llwythi achosion uchel, gweithlu dibrofiad, dadbersonoli, diffyg dealltwriaeth a hyfforddiant y gyfranogaeth. Safon y perthnasoedd rhwng y plentyn a’r bobl broffesiynol, ynghyd a phobl ifanc yn cadeirio cyfarfodydd eu hunain oedd y prif alluogwyr i gyfranogaeth ystyrlon.
Darganfyddodd yr ymchwil bod gwahaniaeth mawr rhwng yr atebion gan weithwyr cymdeithasol neu swyddogion adolygu annibynnol a’r rhai gan reolwyr hyn am lwythi achosion, a’r ddealltwriaeth am ystyr ‘cyfranogaeth’.
Gorffennodd prosiect ymchwil Clive gydag awgrymiadau megis:
- Adolygu llwythi achosion ar gyfer swyddogion adolygu annibynnol a gweithwyr cymdeithasol
- Pobl ifanc i dderbyn hyfforddiant ar gadeirio cyfarfodydd eu hun
- Rheolwyr hyn i dreulio amser yn cysgodi gweithwyr cymdeithasol pob blwyddyn
- Gwell ddefnydd o IT
- Edrych ar adolygon fel profiad pleserus ar gyfer pobl ifanc a dathlu llwyddiannau, efallai mwy fel cynhadledd Grŵp Teulu.
I wylio’r webinar, pwyswch yma
I lawr lwytho’r Pwyn Pŵer, pwyswch yma