Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
Cyhoeddwyd y post hwn yn wreiddiol gan y Gymdeithas Ryngwladol er Atal Cam-drin ac Esgeuluso Plant (ISPCAN).
Dwy sesiwn o hyfforddiant: Rhagfyr 1 ac 8
8:00 – 9:30 a.m. EST (Efrog Newydd) / 2:00 – 3:30 p.m. CET (Genefa)
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn mandadu bod gan blant yr hawl i rannu’r hyn maent yn ei gredu a’i deimlo a chael eu clywed a’u cymryd o ddifrif. Yn gynyddol, ceir cydnabyddiaeth fod cynnal llais y plentyn yn bwysig; fodd bynnag, er gwaethaf protocolau sy’n cefnogi polisi’r Confensiwn, ceir tystiolaeth fod lleisiau plant yn dal i fod heb eu clywed yn aml yn ystod y broses amddiffyn plant. Bydd yr hyfforddiant hwn mewn dwy ran yn rhannu canllawiau ymarferol ar gyfer siarad gyda phlant a nodi eu lleisiau; ffyrdd i ymgysylltu â phlant mewn amrywiol gyd-destunau; a ffyrdd i ymgorffori arferion gorau yn eich ymarfer dyddiol fel ymarferydd rheng flaen.
Cwrdd â’r arbenigwyr
Mae Carmit Katz, PhD, yn athro cyswllt yn Ysgol Gwaith Cymdeithasol Bob Shapell ym Mhrifysgol Tel Aviv ac yn Gyfarwyddwr Ymchwil Sefydliad Haruv. Yr Athro Katz yw sylfaenydd y tîm rhyngddisgyblaethol yn Israel “Justice for Preschoolers,” sy’n hyrwyddo cyfiawnder i blant sydd wedi’u cam-drin. Hi hefyd yw sylfaenydd Pwyllgor Cyhoeddus Israel, “Your Story Matters!”. Nod y Pwyllgor yw newid polisïau o ran cam-drin plant. Yn ystod pandemig COVID-19 dechreuodd yr Athro Katz y Grŵp Rhyngwladol o Ysgolheigion sy’n Amddiffyn Plant rhag Camdriniaeth yn ystod COVID-19, gyda chefnogaeth ISPCAN.
Shanti Raman, MBBS, FRACP, MAE, PhD, yw Cyfarwyddwr yr Adran Pediatreg Gymunedol, Ardal Iechyd Lleol De Orllewin Sydney; mae’n Athro Cyswllt yn Ysgol Iechyd Menywod a Phlant Prifysgol De Cymru Newydd; ac yn aelod o Fwrdd ISPCAN. Mae’r Athro Raman yn Bediatregydd Ymgynghorol, gyda hyfforddiant is-arbenigedd mewn Pediatreg Gymunedol, epidemioleg ac iechyd y cyhoedd. Ymhlith ei diddordebau ymchwil ac addysgu mae iechyd mudwyr a ffoaduriaid, tlodi, iechyd plant brodorol, hawliau plant a cham-drin plant, ymchwil ansoddol, ac iechyd byd-eang mamau, y newydd-anedig a phlant. Mae’n ymwneud â datblygu polisi ar lefel daleithiol, genedlaethol a rhyngwladol, yn darparu gwasanaethau ymgynghori mewn iechyd mamau, y newydd-anedig a phlant, ac mae’n gweithio ar brosiectau ymchwil yn seiliedig ar boblogaeth yn Asia-Pasiffig.
Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.