Mae’r cytundeb hwn yn amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn cydweithio dros y tair blynedd nesaf ar bolisïau lle mae diddordeb cyffredin.
Wrth i Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ddod at ei gilydd yn y Cytundeb Cydweithredu hwn, rydym yn cymryd cam arall ymlaen yn ein hymdrech ar y cyd i gyflawni’r addewid hwnnw o wleidyddiaeth newydd – radical ei gynnwys a chydweithredol ei agwedd.