Dewch o hyd i’ch llwybr gyrfaol!

Bydd y sawl sy’n cymryd rhan yn cael cymorth academaidd a gyrfaol, gan gynnwys gweithdai, profiad gwaith, profiad preswyl mewn prifysgol ac arweiniad gan fyfyrwyr ac academyddion. Byddan nhw hefyd yn cael cymorth UCAS a gallan nhw fod yn gymwys ar gyfer derbyniadau cyd-destunol.

Rhaid i ymgeiswyr fod ym Mlwyddyn 12, fod yn mynychu, ac wedi mynychu erioed, ysgol/coleg a ariennir gan y wladwriaeth, nad oes rhaid talu ffioedd i’w mynychu, a bod yn byw o fewn pellter cymudo rhesymol (90 munud o Gampws Cathays, Prifysgol Caerdydd) i fod yn gymwys.

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais