Mae www.checkyourthinking.org/, a ddatblygwyd o ymchwil Prifysgol Caerdydd, yn dwyn ynghyd adnoddau a deunyddiau a grëwyd o waith ymchwil a phartneriaeth gyda phobl ifanc, yn ogystal â gofalwyr maeth, a gweithwyr proffesiynol perthynol a gofal cymdeithasol. Mae’n adeiladu ar ganlyniadau ymchwil dan arweiniad Dr Sophie Hallett yn adroddiad ‘Keeping Safe?’, a ddefnyddiodd gofnodion achos i ddilyn carfan o 205 o blant yr oedd y gwasanaethau cymdeithasol mewn un awdurdod lleol yng Nghymru’n eu helpu, ochr yn ochr â chyfraniad pobl ifanc, gweithwyr cymdeithasol, gofalwyr maeth a gweithwyr preswyl.

 Mae’r adnoddau i’w defnyddio gan bawb sy’n gweithio gyda phobl ifanc ac yn gofalu amdanynt. Cynlluniwyd iddynt fod yn adnoddau myfyriol i helpu pobl i ‘ystyried eu ffordd o feddwl’ am faterion allweddol sy’n ymwneud â sicrhau nad yw pobl yn camfanteisio ar bobl ifanc, yn gwneud niwed iddynt nac yn eu cam-drin. Gall unigolion eu defnyddio i’w helpu wrth eu gwaith, drwy roi’r cyfle iddynt ystyried eu dealltwriaeth a’u harferion eu hunain. Gellir hefyd eu defnyddio fel ffordd o hwyluso trafodaeth a rhannu barn o fewn ac ar draws timau.  Bydd y wefan, a lansiwyd ar 1 Gorffennaf, yn dangos ffilm newydd wedi’i hanimeiddio am y tro cyntaf a ddatblygwyd mewn partneriaeth â phobl ifanc o Voices from Care, ac mae’n ffordd o roi gwybod i bobl ifanc eu bod wedi cael eu clywed, bod eu lleisiau wedi cyfrannu at bolisïau newydd a bod cefnogaeth ar gael. Comisiynwyd y gwaith hwn gan Lywodraeth Cymru. Cafodd yr ymchwil wreiddiol ei chyllido gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.