Rwy’n fyfyriwr doethurol Eidalaidd yn Adran Seicoleg a Gwyddor Wybyddol Prifysgol Trento, yn ymweld â Phrifysgol Caerdydd a CASCADE am ychydig fisoedd. Yn y blog hwn, byddaf yn dweud rhywbeth wrthych am fy noethuriaeth, sy’n ymwneud â magu plant â phrofiad o fod mewn gofal, a hoffwn ddechrau drwy ddweud rhywbeth wrthych am fy ngwlad, a pham y penderfynais wneud ymchwil ar y pwnc hwn.
Cyn dechrau fy ngyrfa academaidd, gweithiais yn y system amddiffyn plant, gan ddelio’n bennaf â’r rhai sy’n gadael gofal a chyfranogiad. Drwy weithio gyda’r gymdeithas Agevolando, y gymdeithas Eidalaidd gyntaf o bobl sy’n gadael gofal (a’r unig un), y deuthum i wybod straeon llawer o blant oddi allan i’r cartref. Yn yr Eidal, roedd 27,608 o blant oddi allan i’r cartref ar ddiwedd 2019, gyda dosbarthiad tebyg ymysg y mathau o ofal: 13,555 mewn gofal maeth a 14,053 mewn gofal preswyl. Yn anffodus, nid oes llawer yn hysbys am y rhai sy’n gadael gofal. Cyhoeddwyd yr ymchwil fwyaf helaeth ar y pwnc hwn (yn cynnwys 400 o bobl sy’n gadael gofal) eleni, ac, ymhlith materion eraill, tynnodd sylw at y gefnogaeth brin i’r cyfnod pontio gan y system amddiffyn plant. Yn wir, nid oes llwybrau gadael gofal fel yn y DU, er bod sylw cynyddol i’r heriau sy’n wynebu’r rhai sy’n gadael gofal. Diolch i waith eiriolaeth llawer o sefydliadau a’r rhai sy’n gadael gofal, mae polisi arbrofol wedi bod ar waith ers rhai blynyddoedd, a gobeithiwn y bydd yn dod yn bolisi cymdeithasol sefydlog (Pandolfi ac eraill, 2020).
Rwyf hefyd wedi cwrdd â llawer o rieni â phrofiad o fod mewn gofal dros y blynyddoedd, yn aml yn ifanc iawn, ac wedi meddwl tybed sut yr oeddent yn gwneud, p’un a oedd angen unrhyw gymorth arnynt, a sut yr oedd eu bywyd fel rhiant yn gyffredinol. Roedd y myfyrdodau hyn yn gefndir i lunio fy mhrosiect doethurol, diolch hefyd i gefnogaeth fy ngoruchwyliwr, yr Athro Silvia Fargion. Nod cyffredinol fy astudiaeth (a ariennir gan y Weinyddiaeth Prifysgol ac Ymchwil yn rhaglen PRIN 2017) yw ymchwilio i’r berthynas rhwng problemau teuluol a wynebir yn ystod plentyndod ac ymgymryd â’r rôl o fod yn rhiant. Rwy’n bwriadu ystyried ffactorau risg a strategaethau sy’n gysylltiedig â thorri ar draws trosglwyddo amddifadedd, camdriniaeth ac anfantais rhwng cenedlaethau (Putnam ac eraill, 2015), a safbwyntiau eu rôl fel rhiant wrth fod yn oedolion â phrofiad o fod mewn gofal. Gan mai nod yr ymchwil yw deall yn well sut i dorri’r cylch amddifadedd, byddaf yn cynnwys rhieni nad ydynt, ar adeg fy ymchwil, yn cyflwyno arwyddion penodol o atgynhyrchu’r gamdriniaeth y maent wedi’i phrofi. Bwriadaf gyfrannu at y ddadl ddamcaniaethol am gylchoedd o gamdriniaeth ac astudio’r hyn y gellir ei wneud i atal rhieni rhag atgynhyrchu’r hyn a ddigwyddodd iddyn nhw. Gall gwasanaethau cymdeithasol chwarae rhan allweddol wrth atal atgynhyrchu camdriniaeth ar draws cenedlaethau: fy nod yw deall beth all eu cyfraniad fod wrth weithredu arferion a pholisïau sy’n cefnogi rhieni â phrofiad o fod mewn gofal (Ruch a Julkunen, 2006).
Mae dod ar draws gwaith yr Athro Louise Roberts a’i grŵp ymchwil ar fagu plant â phrofiad o fod mewn gofal wedi bod yn arwyddocaol iawn i mi, gan ei fod wedi rhoi gwell dealltwriaeth i mi o’r heriau y mae’r rhieni hyn yn eu hwynebu a rôl bosibl rhianta corfforaethol. Crynhoir prif ganlyniadau ei hymchwil yn y fideo byr ac effeithiol hwn:
Mae agwedd arall sy’n ddiddorol iawn yn fy marn i am fy ngwaith yn ymwneud â’r lle i rieni gymryd rhan yn yr ymchwil. Credaf fod hon yn her fethodolegol bwysig i’r rhai sy’n delio â’r materion hyn oherwydd mae’n bwysig ystyried sut y gallai pwyslais ar faterion problemus gael effaith ar adeiladu’r sefyllfaoedd hyn yn gymdeithasol (Munro, 2019). Felly, credaf fod angen deall cyfranogiad y rhieni hyn yn well, drwy ddarparu lle ar gyfer naratifau sy’n dadorchuddio’r prosesau labelu i herio gwahaniaethu a charcharau hunaniaeth a wneir o nodweddion negyddol (Juhila, 2004). Mae’n berthnasol bod bwrdd cynghori o rieni â phrofiad o fod mewn gofal yn cyd-fynd â’r holl broses ymchwil, gyda chefnogaeth Dr Rachael Vaughan. Arweiniodd y gwaith hwn hefyd at adeiladu Siarter Arfer Da wedi’i chyd-gynhyrchu â rhieni â phrofiad o fod mewn gofal ac roedd yn elwa ar ymgynghori helaeth â gweithwyr proffesiynol o’r sector cyfreithiol a’r trydydd sector. Mae’r siarter hon yn tynnu sylw at y cymorth a ddylai fod ar gael i bobl ifanc cyn ac ar ôl iddynt ddod yn rhieni a gobeithiaf y gellir ei dosbarthu hefyd yng nghyd-destun yr Eidal.
Hoffwn gloi gyda’r gwaith celf hwn o amgueddfa’r bobl sy’n gadael gofal, yr wyf yn ystyried yn arwyddocaol iawn ar gyfer fy ngwaith.
I fod yn fam yw teimlo’r boen o fod heb fam i ofalu amdanaf.
I beidio â bod gyda fy mhlentyn, mae’n dod â thon o emosiynau.
Sut na allech chi ein dewis dros gyffuriau?
Yna rwy’n cofio, fe’u defnyddiasoch i orchuddio eich poen o fod heb fab i ofalu amdanoch.
RWY’N TORRI’R GYLCHRED HON.
Mam ydwyf.
(C. – DU – 2019)
Blog gan Diletta Mauri
- https://www.agevolando.org/
- https://www.lavoro.gov.it/priorita/pagine/monitoraggio-affidamenti-familiari-e-collocamenti-in-comunita-dati-2019.aspx/
- https://www.erickson.it/it/care-leavers?default-group=libri
- https://www.sositalia.it/cosa-facciamo/nel-mondo/europe/progetto-leaving-care
- https://www.youtube.com/watch?v=kR_RY7ELs0U
- https://www.careleavers.it/
- https://library.oapen.org/handle/20.500.12657/47513
Juhila, K. (2004). Talking Back to Stigmatized Identities: Negotiation of Culturally Dominant Categorizations in Interviews with Shelter Residents. Qualitative Social Work, 3(3): 259–275.
Munro, E., a Hardie, J. (2019). Why We Should Stop Talking About Objectivity and Subjectivity in Social Work. British Journal of Social Work, 49(2): 411–427.
Pandolfi, L., Ciampa, A., Bianchi, D., a Fagnini, L. degl’Innocenti, S. (2020). Progettazione e valutazione di interventi sperimentali per l’accompagnamento all’autonomia dei care leavers. Form@re, 20(2).
Putnam-Hornstein, E., Cederbaum, J. A., King, B., Eastman, A. L., a Trickett, P. K. (2015). A population-level and longitudinal study of adolescent mothers and intergenerational maltreatment. American Journal of Epidemiology, 181(7): 496–503.
Roberts, L. (2021). The Children of Looked After Children: Outcomes, Experiences and Ensuring Meaningful Support to Young Parents In and Leaving Care. Gwasg Prifysgol Bryste.
Ruch, G., Julkunen, I. (2006). Relationship-Based Research in Social Work: Understanding Practice Research. Jessica Kingsley Publishers.