Mae’n bosib mai’r gallu dynol i adrodd straeon yw ein nodwedd bwysicaf. Fel y dywedodd Mary Catherine Bateson: “Mae’r rhywogaeth ddynol yn meddwl mewn trosiadau ac yn dysgu drwy straeon.” Mae straeon yn gadael i ni rannu dealltwriaeth, emosiynau a chymhellion. Maen nhw’n gadael i ni gydweithio ar raddfa na all unrhyw anifail arall ei wneud – drwy straeon cyffredin am genhedloedd neu hawliau dynol neu bwysigrwydd gwyddoniaeth neu dduw neu beth bynnag arall sy’n bwysig i ni.
Yr wythnos hon yw Wythnos Adrodd Stori, ac roedden ni am ddathlu drwy gydnabod straeon gwych am waith cymdeithasol a’r mathau o broblemau rydyn ni’n gweithio gyda nhw. Mae stori yn gadael i ni fod, o leiaf am ychydig, yn yr un lle â rhywun sy’n profi pethau ofnadwy neu drawsnewidiol. Gall hyn ein helpu i ddatblygu dealltwriaeth ac empathi – elfennau craidd sydd eu hangen ar weithwyr cymdeithasol.
Fy hoff gyfres deledu erioed yw In My Skin. Fe’i hysgrifennwyd gan Kayleigh Llewellyn gydag actio gwych gan Gabrielle Creevy a Jo Hartley yn arbennig, ac mae’n adrodd hanes Bethan, merch yn ei harddegau sy’n tyfu i fyny yng Nghaerdydd mewn teulu sydd ag anawsterau difrifol. Yr hyn roeddwn i’n ei hoffi am In My Skin yw ei fod yn cymryd golwg ddi-flewyn-ar-dafod ar broblemau anodd iawn, ond hefyd mae’n dathlu gwydnwch a phwysigrwydd cysylltiad. Ac mae’n ddoniol iawn. Roeddwn i’n chwerthin un funud ac yn crio’r funud nesaf.
Mae In My Skin wedi’i seilio ar brofiadau Kayleigh ei hun. Roeddwn i wrth fy modd felly ac yn teimlo ychydig o barchedig ofn pan ges i’r cyfle i sgwrsio gyda hi am In My Skin, ei bywyd a rhai goblygiadau i bobl sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd. Mae Kayleigh yn cynnig dirnadaeth hynod o ddefnyddiol i unrhyw un a allai fod yn gweithio gyda materion fel problemau iechyd meddwl, cam-drin domestig a chamddefnyddio sylweddau. Rwyf i wir yn credu y bydd unrhyw weithiwr cymdeithasol neu weithiwr iechyd meddwl proffesiynol yn dysgu pethau drwy wrando arni. Fe wnes i, yn sicr. Felly os nad ydych chi wedi’i weld – gwyliwch In My Skin. Rydyn ni wedi ceisio peidio â rhoi spoilers felly gallwch chi wylio’r gweminar yn gyntaf neu ei wylio ar ôl gweld y gyfres.