Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
Mae dyddiad cau’r alwad am bapurau ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD 2022 wedi’i ymestyn i ddydd Gwener, 11 Chwefror.
Cynhadledd Flynyddol WISERD 2022
Prifysgol Abertawe
Dydd Mercher 6 Gorffennaf a dydd Iau 7 Gorffennaf 2022
Thema ein Cynhadledd Flynyddol yw ‘Cymdeithas sifil a chymryd rhan: materion cydraddoldeb, hunaniaeth a chydlyniant mewn tirwedd gymdeithasol sy’n newid’.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai ein prif siaradwyr fydd yr Athro Mererid Hopwood, Prifysgol Aberystwyth a Dr Victoria Winckler, cyfarwyddwr Sefydliad Bevan.
Mae ein thema’n adlewyrchu heriau byd-eang wrth lunio cymdeithas sifil a chymryd rhan. Caiff pryderon ynghylch tlodi a chyfiawnder cymdeithasol eu llywio fwyfwy gan argyfwng ynni byd-eang a chostau byw cynyddol; mae’r pandemig a’r cyfyngiadau cysylltiedig wedi gwaethygu anghydraddoldeb a rhaniadau diwylliannol presennol ac mae’r polisi newid yn yr hinsawdd yn gofyn cwestiynau pellach am rolau a chyfrifoldebau gwladwriaethau, marchnadoedd a dinasyddion.
Mae argoel y bydd y gynhadledd yn rhoi cyfle i gydweithwyr o bob rhan o’r sector academaidd, polisi, cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector rwydweithio a thrafod gwaith ymchwil rhyngddisgyblaethol arloesol o Gymru a thu hwnt sy’n canolbwyntio ar ddulliau a fabwysiadwyd mewn amrywiaeth eang o feysydd polisi. Mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan gydweithwyr am y meysydd pwnc canlynol, yn enwedig os ydynt yn cyd-fynd â heriau cyfoes:
- Cymdeithas sifil, cymryd rhan a llywodraethu
- Cymryd rhan, diwylliant a hunaniaeth iaith
- Tlodi a chyfiawnder cymdeithasol
- Cysylltiadau byd-eang Cymru: cymdeithas sifil a chymryd rhan mewn cyd-destun
- Cymryd rhan a chymdeithas sifil drwy gwrs bywyd
- Cymryd rhan mewn addysg
- Cymryd rhan yn y farchnad lafur
- Gweithio gyda chymunedau
- Ymchwil am gymryd rhan ym meysydd tai, iechyd a gofal cymdeithasol
- Ymchwil am actifiaeth a chymdeithas sifil
- Ymgymryd ag ymchwil am gymryd rhan a gweithredu
- Croesewir hefyd bapurau a phosteri ar bynciau eraill o fewn y thema nad ydynt yn dod o dan yr is-themâu uchod.
Eleni, hoffem wahodd cynigion am gyflwyniadau papur, sesiynau rhyngweithiol/gweithdai, posteri/arddangosion, neu golocwia mewn unrhyw ddisgyblaeth sy’n ymgysylltu â’r gwyddorau cymdeithasol.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno crynodebau yw 9.00am ddydd Gwener, 11 Chwefror 2022.
Anfonwch eich crynodebau i WISERDAnnualConference@caerdydd.ac.uk.
Edrychwn ymlaen at gael eich papur ac at gynhadledd gyffrous yn 2022.
Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.