Cefnogi lles plant a phobl ifanc anabl: manteision gweithgareddau hamdden hygyrch
Seiliwyd astudiaeth ‘VOCAL‘ ar hawl plant i “orffwys, hamdden, chwarae a mwynhad a chymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chelfyddydol” (Cronfa Plant y Cenhedloedd Unedig 1989, t.10). Roedd yr ymchwil hon yn gynrychiolaeth ddilys o leisiau plant anabl yn sôn am eu cyfranogiad mewn gweithgareddau hamdden.
Roedd gan y plant a’r bobl ifanc a gymerodd ran yn yr astudiaeth gyfyngiadau o ran cerdded a siarad. Cawsant eu harsylwi’n cymryd rhan yn eu hoff weithgareddau hamdden a chreodd eu rhieni ddyddiadur o ffotograffau. Mynychodd y cyfranogwyr Cubs a Brownies, cerdded yn y parc, gwylio tân gwyllt, ymweld â’r sinema, theatr a digwyddiadau cerddorol, a chymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau chwaraeon.
Lle’r oedd addasiadau wedi’u gwneud i’r plant a’r bobl ifanc, roedd eu mwynhad yn amlwg yn eu hymatebion di-eiriau, gan adlewyrchu eu lles cadarnhaol. Yn hollbwysig, roedd y rhain i gyd yn haws os oedd toiled ‘changing places’ a theclyn codi symudol ar gael (gweler hefyd Consortiwm Changing Places)
Os nad oedd ystyriaeth wedi’i roi i addasu’r gweithgaredd ar gyfer y plentyn anabl roedd eu cyfranogiad yn gyfyngedig, gan leihau unrhyw fuddion llesiant posibl. Digwyddodd hyn pan eithriwyd Poppy o’r Bat Crawl, a allai fod wedi’i addasu i alluogi cadair olwyn i gymryd rhan drwy addasu ychydig ar y ffens.
Cyflwynwyd canfyddiadau’r astudiaeth i’r plant yn y fideo PowToon canlynol:
Mae rhagor o ymchwil ar waith i ddatblygu graddfa dangosyddion lles ddibynadwy i blant a phobl ifanc sydd â chyfyngiadau cyfathrebu. I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn, cysylltwch â:
Dr Dawn M Pickering, Ffisiotherapydd Plant, Uwch-ddarlithydd, Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Caerdydd, @DawnMPickering
Gallai’r dolenni hyn helpu teuluoedd gyda phlant anabl i edrych ar weithgareddau y gallai eu plant ddymuno rhoi cynnig arnynt yng Nghymru, Bryste a Chaerloyw.
These links may help families with disabled children to explore activities that their child might like to try in Wales, Bristol and Gloucester.
Surfability UK
Pedal Power
Touch Trust
RaceRunning
Gympanzees
Chamwell Centre
Euan’s Guide
Mae Euan’s Guide yn helpu teuluoedd i gynllunio ymweliadau drwy adolygu hygyrchedd mewn cyrchfannau.
Rhagor o wybodaeth
Cyfeirnodau
Pickering, D. M. 2021. Beyond physiotherapy: voices of children and young people with cerebral palsy and their carers about ‘Participation’ in recreational activities (VOCAL). Traethawd PhD, Prifysgol Caerdydd
Cronfa Blant y Cenhedloedd Unedig. 1989. Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn [Ar-lein]. Efrog Newydd: UNICEF.