Mae’r Rhwydwaith Maethu Cymru yn gweithio’n uniongyrchol gyda phobl ifanc â phrofiad o ofal i greu cylchgronau sy’n trafod eu pryderon, dogfennu eu profiadau, a chyfleu negeseuon pwysig. Cyhoeddwyd rhifyn cyntaf Thrive yn 2005 ac ers hynny mae wedi bod yn rhoi gwybodaeth, cymorth ac arweiniad i blant a phobl ifanc sydd mewn gofal maeth ledled Cymru. Mae Thrive yn rhoi platfform safonol sy’n grymuso pobl ifanc i ddweud eu dweud ac i fynegi eu barn ar yr hyn sy’n bwysig iddynt.

Yn 2019, gwnaeth Rhwydwaith Maethu Cymru gwrdd â phobl ifanc o Gymru a gweithio gyda nhw i glywed eu barn am y byd digidol a chynhyrchwyd Thrive magazine Your Life Online. Yn 2020, gweithiodd y Rhwydwaith Maethu yng Nghymru, Fforwm Gofal Pobl Ifanc gydag elusen Brook i drafod pwysigrwydd sicrhau bod pobl ifanc mewn gofal maeth yn cael perthnasoedd iach â ffrindiau, teulu, eu cariadon a’u gofalwyr maeth a chynhyrchwyd Thrive magazine Healthy Relationships. Yn fwy diweddar, cymerodd Fforwm Gofal Pobl Ifanc Cymru ran mewn gweithdai i drin a thrafod pwysigrwydd cael cynllun llwybr i helpu i baratoi ar gyfer gadael gofal a manylu ar y cymorth y mae gan bobl ifanc hawl iddo hefyd. Roedd hyn yn llywio’r rhifyn diweddaraf hwn o Thrive magazine – Your Plan, Your Voice, sy’n edrych ar beth, pryd a sut y gall pobl ifanc sicrhau eu bod yn rhan o’r broses gyfan.

Thrive magazine

Y Rhwydwaith Maethu yng Nghymru, @tfn_Wales, wales@fostering.net. Am rifynnau blaenorol o Thrive, ewch i wefan Y Rhwydwaith Maethu.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y cyhoeddiadau blaenorol hyn gan Y Rhwydwaith Maethu yng Nghymru: