Cafodd y rhifyn hwn o Thrive Magazine: Your plan, your voice ei lywio gan Fforwm Gofal Cymru i Bobl Ifanc. Cynhalion nhw weithdai i drin a thrafod pwysigrwydd cael cynllun llwybr i helpu i baratoi ar gyfer gadael gofal ac egluro am y cymorth y mae gan bobl ifanc hawl iddo hefyd. Mae’r rhifyn hwn o Thrive yn edrych ar beth, pryd a sut y gall pobl ifanc sicrhau eu bod yn rhan o’r broses gyfan.