Mae Leicestershire Cares wedi bod yn ymwneud â’r Adolygiad Annibynnol o Ofal Cymdeithasol Plant yn Lloegr ers iddo gael ei lansio. Fe ymatebom ni i’r Alwad gychwynnol am Dystiolaeth, cyflwyno adborth i’r Achos dros Newid ac rydym ni wedi cwrdd â’r Cadeirydd i rannu barn ein staff a phobl ifanc ar sut y cynhaliwyd yr Adolygiad a’i gyfleoedd.
Drwy ein hymwneud â’r Adolygiad a’n gwaith gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, datblygwyd pum cwestiwn penodol a gyflwynwyd i Alwad yr adolygiad am Syniadau. Bwriad y rhain yw cynnig rhai camau gweithredu diriaethol, ymarferol a hawdd eu rhoi ar waith a allai greu newid gwirioneddol i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Edrychwn ymlaen at weld argymhellion terfynol yr Adolygiad yn ystod gwanwyn 2022.
Syniad 1: Rhianta corfforaethol
Cyd-destun: Dywed pobl ifanc wrthym mai’r unig gysylltiad sydd ganddynt â’u hawdurdod lleol yw drwy eu PA neu’r timau gadael gofal/gofal cymdeithasol. Nid yw hyn yn adlewyrchu cyfrifoldeb llawn yr awdurdod lleol fel rhiant corfforaethol. Yn ogystal, mae ein cyswllt ni â chynghorwyr lleol yn awgrymu, er gwaethaf eu bwriadau da, mai ychydig ohonynt sy’n ymwybodol o’u cyfrifoldebau llawn fel rhiant corfforaethol na’r nifer o heriau y mae pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn eu ward yn eu hwynebu.
Syniad: Dylai pob cynghorydd ymgymryd ag o leiaf hanner diwrnod o hyfforddiant ar eu cyfrifoldebau rhianta corfforaethol wrth ddechrau eu swydd. Disgwylir i’r holl gynghorwyr fod wedi siarad gydag o leiaf 3 i 4 person ifanc sydd â phrofiad o ofal yn eu ward drwy gydol y flwyddyn.
Effaith: Bydd cynghorwyr yn deall ac yn cymryd rhianta corfforaethol o ddifrif ac yn meithrin eu dealltwriaeth o bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, a ddylai arwain at drosolwg a phenderfyniadau mwy gwybodus am ofal plant yn yr awdurdod lleol.
Syniad 2: Mae angen pentref i fagu plentyn.
Cyd-destun: Mae ein gwaith yn tynnu cryfder o feithrin cysylltiadau rhwng pobl ifanc a busnes, y gymuned a’u hawdurdod lleol. Mae gan fusnesau a grwpiau cymuned gyfleoedd, sgiliau a phrofiad y gallant eu rhannu gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Serch hynny, yn ein profiad ni, nid yw awdurdodau lleol yn manteisio ar y cysylltiadau hyn i gynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu perthnasoedd cynaliadwy a allai barhau i’w cefnogi y tu hwnt i’r “clogwyn gofal” yn 25 oed.
Syniad: Dylai fod gan bob awdurdod lleol gynlluniau sy’n dangos sut y byddant yn gweithio gyda grwpiau cymunedol a’r sector busnes i gefnogi pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, gyda’r rhain yn cael eu monitro a’u hadrodd yn flynyddol. Dylid gosod amcanion i PAs a gweithwyr 16+ yn ymwneud â rhwydweithio a meithrin perthynas gyda busnesau a grwpiau cymunedol a manteisio ar y rhain i greu cyfleoedd i bobl ifanc dyfu a ffynnu.
Effaith: Arwain at sicrhau bod llawer mwy o adnoddau, safbwyntiau, sgiliau a phrofiad ar gael i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Bydd pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn meithrin perthynas gyda sefydliadau, grwpiau a gwasanaethau y tu hwnt i’w PA a all barhau i’w cefnogi ymhell ar ôl iddynt adael gofal.
Syniad 3: Lleisiau pobl ifanc
eu clywed gan weithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol, mae pobl ifanc yn aml yn teimlo bod hyn yn symbolaidd yn unig ac mai anaml y bydd y gweithwyr sy’n eu cefnogi’n gwrando arnynt. Caiff hyn ei ddwysau gan ddiffyg gwybodaeth am sut y gallant ddarparu adborth adeiladol ar gefnogaeth eu gweithwyr.
Syniad: Dylai arfarniadau gweithwyr cymdeithasol/gweithwyr gofal/gweithwyr 16+ gynnwys adborth 360-gradd gan y bobl ifanc maent yn gweithio gyda nhw.
Effaith: Sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu bwydo i ddatblygiad staff a rheoli perfformiad, gan wella ansawdd y gefnogaeth a’r gwasanaethau. Pobl ifanc yn cael mwy o ddealltwriaeth o rolau’r bobl sy’n eu cefnogi a sut mae’r system yn gweithio, ac yn teimlo bod ganddynt lais yn y ffordd y cânt eu cefnogi.
Syniad 4: Caffael
Cyd-destun: Mae awdurdodau lleol yn gwario biliynau o bunnoedd y flwyddyn ar gontractau a ddyfernir i’r sector preifat. Mae gan lawer gymalau gwerth cymdeithasol sy’n golygu bod rhaid i fusnesau nodi sut y byddant o fudd i’r gymuned leol, ond yn aml ni roddir digon o ystyriaeth i sut y gellid manteisio ar hyn i gefnogi pobl ifanc yr awdurdodau lleol yn uniongyrchol.
Syniad: Dylai pob tendr gan y llywodraeth ac awdurdodau lleol gynnwys darpariaeth sy’n golygu bod rhaid i gwmnïau ymrwymo i gefnogi pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal drwy amrywiaeth o opsiynau fel cynnig lleoliadau gwaith, prentisiaethau, mentora a chefnogaeth i grwpiau pobl ifanc â phrofiad o ofal (gweler yr Addewid i Ofalu am enghreifftiau gwych o hyn). Gellid defnyddio’r Cyfamod Ymadawyr Gofal i nodi hyn a darparu gwobr/bathodyn i fusnesau sy’n cyflawni eu hymrwymiadau.
Effaith: Agor amrywiaeth o gyfleoedd i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal gymryd camau at hyfforddiant a chyflogaeth, a helpu i sicrhau adnoddau ac arbenigedd y sector preifat sy’n elwa o filiynau o bunnoedd o gyllid y sector cyhoeddus bob blwyddyn.
Syniad 5: Hyfforddiant i weithwyr proffesiynol dan arweiniad pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal
Cyd-destun: Yn aml bydd pobl ifanc yn dweud wrthym nad yw eu PAs neu weithwyr cymorth eraill yn ymwybodol o’r holl hawliau sydd gan bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, ac felly na allant eiriol ar eu rhan yn effeithiol. Yn ogystal, er bod gan lawer o weithwyr proffesiynol brofiad o weithio mewn gofal cymdeithasol, dyw’r mwyafrif llethol ddim wedi bod drwy’r un peth â’r bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ac mae angen cymorth i ddangos empathi gyda’r bobl ifanc a deall eu safbwynt.
Syniad: Dylid rhoi cefnogaeth i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ddatblygu hyfforddiant ac offer codi ymwybyddiaeth i weithwyr proffesiynol ar draws awdurdodau lleol, darparwyr addysg, y gymuned a busnesau, am y materion maent yn eu hwynebu a’u hawliau.
Effaith: Helpu i godi ymwybyddiaeth, agor drysau a meithrin cysylltiadau rhwng pobl ifanc a’r gymuned, busnesau ac awdurdodau lleol. Helpu i sicrhau bod yr holl weithwyr yn deall hawliau pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, a bydd y bobl ifanc yn dysgu sgiliau a dealltwriaeth ddyfnach o’u hawliau.