Prosiect tair blynedd gan Rwydwaith Maethu Cymru a ddechreuodd yn 2020 yw Pennau’n Uchel (Walking Tall). Mae’n gweithio gyda phlant ysgol gynradd mewn gofal maeth ac fe’i comisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r rhaglen Cymunedau Maethu.
Gan ddefnyddio gweithgareddau rhyngweithiol, mae’r prosiect yn annog staff a hwyluswyr i feddwl sut y gallant fabwysiadu dull mwy cyfranogol wrth weithio gyda phlant ac mae’n tynnu sylw at bwysigrwydd cyd-gynhyrchu – gweithio ochr yn ochr â phlant, i’w grymuso i rannu eu barn a chael eu clywed.
Mae Pennau’n Uchel yn cydnabod bod gan bawb sy’n ymwneud â maethu gyfraniad hanfodol i’w wneud, er mwyn gwella ansawdd bywyd plant a phobl ifanc mewn gofal a’u teuluoedd maeth. Drwy wneud hyn, bydd y prosiect yn helpu i sicrhau bod plant yn rhan o gynllunio a chyflawni prosiectau fydd yn diwallu eu hanghenion eu hunain.
Diben Cam Un oedd datblygu sesiynau creadigol yn seiliedig ar chwarae, i ganfod sut mae plant yn hoffi ymgysylltu’n ddigidol a’u gwahodd i gynghori ar ddeunyddiau a gweithgareddau ar gyfer gweithio gyda phlant yng nghamau diweddarach prosiect Pennau’n Uchel.
Yng Ngham Un, bu’r plant yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau creadigol yn cynnwys ‘Rock Star’ lle’r oedden nhw’n peintio cerrig i gynrychioli pethau yn eu bywyd sy’n eu gwneud yn hapus. Yna bu’r plant yn trafod cryfderau a gwendidau’r dulliau gwahanol hyn. Gofynnwyd iddyn nhw greu syniadau am weithgareddau eraill yr hoffen nhw eu gweld a beth yn eu barn nhw yw’r ffordd orau i blant rannu eu safbwyntiau, profiadau a syniadau.
Er mai barn y plant oedd yn ganolog, bu gofalwyr maeth hefyd yn cyfrannu eu barn a’u safbwyntiau ar y prosiect. Dywedodd un gofalwr maeth bod cwblhau gweithgareddau creadigol gyda phlant yn ‘Dod â phawb at ei gilydd rywsut. Roedd hyn hyfryd ac yn bleserus iawn.’
Rhwydwaith Maethu Cymru
@tfn_Wales
wales@fostering.net
Boffey, M., Mannay, D, Vaughan, R. a Wooders, C. 2021. The Fostering Communities Programme – Walking Tall: Stage One Evaluation. Caerdydd: Y Rhwydwaith Maethu yng Nghymru.