Awdur: Yr Athro Judith Harwin, Prifysgol Caerhirfryn.

Yn 2020 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddwy flynedd o gyllid i sefydlu’r llys alcohol a theulu (FDAC) peilot cyntaf yng Nghymru, gan weithredu ar argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru y flwyddyn flaenorol[1]. Cynhelir y cynllun peilot yn ne Cymru, mewn llys yng Nghaerdydd gyda Bro Morgannwg a Chaerdydd yn awdurdodau lleol cyfranogol. Bydd yn agor yn hydref 2021. Bydd gwerthusiad yn helpu i ateb cwestiwn canolog – a all FDAC helpu i leihau nifer y plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru?

Mae FDAC yn llys sy’n datrys problemau, ac yn wahanol i achosion gofal safonol, mae’n trin ac yn dyfarnu.[2] Y prif nod yw helpu rhieni i fynd i’r afael â’u camddefnydd o sylweddau ac anawsterau cysylltiedig er mwyn hyrwyddo uno teuluoedd unwaith eto yn ddiogel ac yn gynaliadwy. Mae tîm FDAC amlddisgyblaethol yn cynnig cymorth dwys i rieni, gan eu cysylltu â’r gwasanaethau lleol, a chynghori’r llys ar gynnydd y rhieni mewn gwrandawiadau rheolaidd heb gyfreithiwr. Yn y gwrandawiadau hyn mae’r barnwr a’r rhieni yn siarad yn uniongyrchol â’i gilydd a chaiff y cynnydd ei adolygu gyda’r tîm FDAC. Rôl y barnwr yw helpu i gymell rhieni a’u hatgoffa o’u cyfrifoldebau ynghyd â datrys problemau. Os na all rhieni wneud newidiadau o fewn cyfnod o amser sy’n gydnaws ag anghenion y plentyn, bydd yr achos yn dychwelyd i achos safonol a chaiff y plentyn ei osod mewn gofal amgen. Os nad yw rhieni am gymryd rhan mewn FDAC, caiff eu hachos ei glywed mewn achos safonol.

Mae’r sail resymegol ar gyfer y cynllun peilot yng Nghymru’n gryf. Tynnodd y Comisiwn ar dystiolaeth ymchwil yn Lloegr sy’n dangos bod gan FDAC gyfraddau uwch o ailuno teuluoedd ar ddiwedd achosion gofal o’i gymharu ag achosion safonol. Mae ailuno’n fwy tebygol o barhau’n gyflawn o fewn tair blynedd i’r achos llys gyda chyfran uwch o famau’n parhau’n rhydd rhag camddefnyddio sylweddau bum mlynedd yn ddiweddarach.[3] Yn ogystal â chael canlyniadau gwell, mae FDAC yn arbed arian[4]. Roedd y potensial y gallai FDAC helpu i leihau maint y boblogaeth o blant dan orchymyn gofal yn sbardun pwysig – yn fwy nag yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon. Mae Cymru’n defnyddio llai o orchmynion sy’n arwain at ailuno teuluoedd na Lloegr, ac mae’r gyfradd o fabanod sy’n cael eu symud yn barhaol yn dilyn achosion gofal yn uchel iawn.[5] Fel yn Lloegr, ni chaiff unrhyw ddata ei gasglu’n genedlaethol ar gyfraniad camddefnyddio sylweddau gan rieni i’r tueddiadau hyn, ond mae plant yng Nghymru bron ddwywaith yn fwy tebygol o dderbyn gofal os oes gan riant broblem alcohol neu gyffuriau.[6]

Mae’r rhain i gyd yn rhesymau cryf dros dreialu FDAC. Felly hefyd mae’r dystiolaeth fwy meddal. Mae rhieni a gweithwyr proffesiynol yn cefnogi FDAC oherwydd ei ymagwedd dosturiol ynghyd â thegwch gweithdrefnol. Dywed rhieni eu bod yn cael eu trin fel bodau dynol ‘normal’ a’u bod yn cael cynnig gobaith y gallant newid. Mae gweithwyr proffesiynol yn croesawu ymagwedd anymosodol, gydweithredol a thryloyw FDAC, ac, yn hanfodol, mae’r ymchwil yn dangos ei fod yn fodel trosglwyddadwy. Dangosodd arsylwadau llys mewn FDACs sefydledig a newydd yn Lloegr fod y farnwriaeth yn gweithredu egwyddorion ac arferion cyfiawnder datrys problemau[7].

Nid yw FDAC yn ateb pob problem. Ni all oresgyn problemau amddifadedd, llymder a dirywiad mewn gwasanaethau ond gall helpu i gymell a chefnogi rhieni i newid a dod yn ddatryswyr problemau gwell. Mae’n gwneud hynny drwy ddefnyddio’r llys fel asiant newid â chyfyngiad amser yn hytrach na dewis olaf, gan fabwysiadu dull cyfannol a thryloyw i fynd i’r afael â’r ystod lawn o broblemau rhieni. 


[1] https://gov.wales/commission-justice-wales-report

[2] https://justiceinnovation.org/areas-of-focus/family-drug-and-alcohol-courts

[3] https://academic.oup.com/lawfam/article/32/2/140/4962132

[4] Centre for Justice Innovation (2016) Better Courts: the financial impact of the Family Drug and Alcohol Court in London. 

[5] https://www.cfj-lancaster.org.uk/app/nuffield/files-module/local/documents/Born%20into%20care%20Wales%20-%20main%20report_English_final.pdf

[6] https://www.wcpp.org.uk/wp-content/uploads/2019/05/190715-Analysis-of-Factors-Contributing-to-High-Rates-of-Care-REVISED.pdf

[7] https://onlinelibrary.wiley.com/doi/abs/10.1002/car.2521.

Cyfieithu yn dod yn fuan