Meic yw’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc Cymru rhwng 0 a 25 oed. Gellir cysylltu â gwasanaeth dwyieithog Meic, yn gyfrinachol ac am ddim, ar y ffôn (08088023456), neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein ar ein gwefan. Rydym yn agored rhwng 8yb a hanner nos bob dydd o’r flwyddyn.
Mae ein gwefan yn cynnwys llawer o erthyglau diddorol sydd yn berthnasol i blant a phobl ifanc, ac mae gennym adran i weithwyr proffesiynol hefyd gyda llawer o adnoddau defnyddiol. Rydym hefyd yn cysylltu gyda phlant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol ar Instagram, Facebook a Twitter, ac mae gennym sawl fideo rydym wedi eu creu ar ein sianel YouTube.